Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn gweithredu gwasanaeth "Archebu a Chasglu" yn unig. Darllen rhagor am y gwasanaeth Archebu a Chasglu
Cyhoeddiad Pwysig
O 14 Medi, rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i unrhyw lyfrgell yn Rhondda Cynon Taf.
Defnyddiwch gatalog ar-lein y llyfrgell i bori, cadw ac adnewyddu eitemau.
Gwasanaeth Archebu a Chasglu
Bydd y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn darparu gwasanaeth "Archebu a Chasglu" yn unig. Bydd modd archebu llyfrau a'u casglu o'r llyfrgelloedd canlynol:
- Llyfrgell Pontypridd (Llys Cadwyn)
- Llyfrgell Treorci
- Llyfrgell Aberdâr
- Canolfan Pennar
- Llyfrgell Rhydfelen
- Llyfrgell y Porth
- Llyfrgell Hirwaun
- Llyfrygell Glynrhedynog
- Llyfrgell Pont-y-Clun
- Llyfrgell Pentr'r Eglwys
- Llyfrgell Abercynon
- Llyfrgell Llantrisant
- Llyfrgell Tonypandy
Rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Archebu a Chasglu
Oriau agor
Nodwch - mae'r amseroedd agor wedi newid yn ystod y gwasanaeth "Archebu a Chasglu"
Am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, ewch i dudalen facebook Gwasanaeth y Llyfrgelloedd neu wefan, Twitter neu Facebook y Cyngor.
Timetable
Diwrnod | Amser |
Dydd Llun |
9:00 am to 5:00 pm |
Dydd Mawrth |
9:00 am to 5:00 pm |
Dydd Mercher |
9:00 am to 5:00 pm |
Dydd Iau |
9:00 am to 5:00 pm |
Dydd Gwener |
9:00 am to 5:00 pm |
Dydd Sadwrn |
9:00 am to 1:00 pm |
Cyfleusterau
Cyfleusterau
| |
10 o gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd (â meddalwedd Microsoft Office) |
Peiriant sganio |
Mynediad i'r rhyngrwyd (cysylltiad Wi-Fi)
Ystafell Gyfrifiaduron gyda 12 cyfrifiadur
|
|
Catalog ar-lein |
Peiriannau darllen microfiche a microffilm |
Casgliad o DVDau |
|
Casgliad o lyfrau llafar digidol |
Cryno ddisgiau a chofau bach ar werth |
Llyfrgell gyfeirio (un o lyfrgelloedd cyswllt dynodedig Llywodraeth Cymru ac yn Ganolfan Gwybodaeth Gyhoeddus Ewropeaidd) |
Peiriant llungopïo |
|
Peiriant argraffu du a gwyn / lliw
2 ystafell gyfarfod i’r gymuned: Ystafell Morfydd Llwyn Owen 9, 15 - 20 o bobl, Ystafell Lindsay Morris, 6 - 10 o bobl.
|
|
* Mae grwpiau cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a sefydliadau di-elw yn cael defnyddio'r ystafell cyfarfodydd am ddim. Mae modd i sefydliadau masnachol logi'r ystafell am bris rhesymol.
Os byddwch chi eisiau cadw'r ystafell cyfarfodydd, cysylltwch â ni.
Mynediad i bobl anabl
- mynediad i gadeiriau olwyn
Llyfrgell gyfeirio
Mae llyfrgell cyfeirio ac astudiaethau lleol ar wahân yn Llyfrgell Pontypridd. Mae'r casgliad yn ymdrin ag ardal Rhondda Cynon Taf ac yn canolbwyntio ar ardal Taf–Elái. Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrau, papurau newydd, cyfnodolion, mapiau, cynlluniau, cyfeirlyfrau, darluniau ac effemera. Mae ffurflenni Cyfrifiad a Chofrestrau Etholwyr ymhlith yr holl gofnodion sydd ar gael i bobl sy'n hel achau.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau hanes lleol a hanes teulu ar gael.
Os oes ymholiad gennych chi, anfonwch neges e-bost at:
Cyfeirnod.Llyfrgell@rctcbc.gov.uk
Mae modd cyflwyno ymholiadau ar-lein i'r tair llyfrgell gyfeirio.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.