Mae Llyfrgelloedd Cyfeirio ar gael yn Aberdâr, Pontypridd a Threorci ac mae staff penodol ar gael i ymdrin ag ymholiadau.
- Bydd modd trefnu apwyntiad er mwyn defnyddio’r adran Gyfeirio. Bydd sesiynau awr o hyd ar gael ar gyfer hyd at 2 berson yn unig. Bydd unrhyw ddeunyddiau hanes lleol sy'n cael eu defnyddio yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr.
Ymholiadau Cyfeirio
Gallwch gael fynediad at ddeunyddiau cyfeirio, fel papurau newyddion, cylchgronau, geiriaduron, cyfarwyddiaduron, mapiau a ffotograffau yn y llyfrgell gyfeirio. Does dim modd benthyg yr eitemau hyn, ond gallwch eu hymgynghori yn ein llyfrgelloedd ar ein desgiau astudio penodol, sydd â sganwyr microfilm / fiche digidol.
Mae modd defnyddio sganwyr microffilm/microfiche Canon MS800 digidol gyda dogfennau microffilm a microfiche y llyfrgelloedd. Mae'r dogfennau hyn yn cynnwys ffurflenni cyfrifiad ar gyfer yr ardaloedd lleol ac ôl-gopïau o lawer o'r papurau newydd lleol.
Gall ein staff cyfeirio ddarparu gwybodaeth am Rondda Cynon Taf i holl drigolion neu bobl eraill.
Gall wybodaeth ehangach, cyffredinol gael ei ddarparu i'r rheiny sy'n byw, astudio neu'n gweithio yn Rhondda Cynon Taf.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol, sy ddim yn benodol i Rondda Cynon Taf, a dydych chi ddim yn byw, astudio neu'n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, gallwch ofyn i lyfrgellydd ar www.ask-a-librarian.org.uk