Mae deall perygl llifogydd a gwybod pa awdurdodau rheoli risg sy’n gyfrifol am reoli gwahanol fathau o berygl llifogydd yn bwysig er mwyn galluogi unigolion a chymunedau i ddod yn fwy cydnerth.
Beth yw perygl llifogydd?
Mae perygl llifogydd yn gyfuniad o'r tebygolrwydd (tebygolrwydd neu siawns) y bydd digwyddiad o fath a'r canlyniadau (effaith) pe bai'n digwydd. Mae perygl llifogydd yn dibynnu ar fod ffynhonnell llifogydd, fel afon, llwybr i’r dŵr llifogydd ei gymryd (llwybr), a rhywbeth sy’n cael ei effeithio gan y llifogydd (derbynnydd), fel eiddo neu fusnes.
Pwy sydd â chyfrifoldebau am reoli perygl llifogydd?
Mae nifer o sefydliadau â chyfrifoldebau statudol dros reoli perygl llifogydd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT). O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 gelwir y sefydliadau yma'n Awdurdodau Rheoli Risg ac mae gan bob Awdurdod Rheoli Risg ddyletswydd i gydweithredu â’i gilydd ac i rannu gwybodaeth er mwyn darparu rheolaeth risg llifogydd mewn partneriaeth yn fwy effeithiol i’r budd eu cymunedau. Mae’r Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru yn cynnwys:
Trosolwg o'r Awdurdodau Rheoli Risg
|
Llywodraeth Cymru: Pennu cyfeiriad strategol ac amcanion ar gyfer rheoli perygl llifogydd a blaenoriaethu cyllid ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithredu fel Awdurdod Rheoli Risg yn ei dyletswyddau fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd.
|
Cyfoeth Naturiol Cymru: Goruchwylio a chyfathrebu cyffredinol ynghylch rheoli perygl llifogydd yng Nghymru ac yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd o brif afonydd, eu cronfeydd dŵr, a’r môr.
|
Awdurdodau Lleol fel Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ac Awdurdodau Priffyrdd: Mae gan yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) gyfrifoldebau a phwerau i reoli llifogydd o ffynonellau lleol sy'n cynnwys cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear.
Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn rheoli draenio priffyrdd yn rhan o'u rôl fel Awdurdodau Priffyrdd.
|
Cwmnïau Dŵr: Mae cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn gyfrifol am ddarparu dŵr ac am wneud trefniadau priodol ar gyfer draenio dŵr budr, trin gwastraff, a rheoli llifogydd o systemau dŵr a charthffosiaeth.
|
Mae'r math o berygl llifogydd yn effeithio ar bwy sy'n gyfrifol am ei reoli - boed yn Awdurdod Rheoli Risg neu'n berchennog tir / eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o lifogydd a phwy mae angen cysylltu â nhw os bydd llifogydd, ewch i'n tudalen yma.
Mae trosolwg isod o rolau a chyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Risg a pherchnogion tir / eiddo ar gyfer rheoli gwahanol fathau o berygl llifogydd yn RhCT:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) ar gyfer Rhondda Cynon Taf (RhCT) fel y'i dynodwyd gan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, 2010. Fel y’i diffinnir yn y Ddeddf, mae CBSRhCT yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd lleol, sy’n cynnwys:
- Dŵr wyneb
- Dŵr daear
- Cyrsiau dŵr cyffredin
Mae ein dyletswyddau a’n pwerau statudol fel ALlLlA yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- Dyletswydd i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer
- rheoli perygl llifogydd lleol yn ei ardal
- Dyletswydd i gydymffurfio â'r Strategaeth Genedlaethol
- Dyletswydd i ymchwilio i bob achos o lifogydd yn ei ardal, cyn belled ag y mae ALlLlA yn ei ystyried yn angenrheidiol neu'n briodol
- Dyletswydd i gadw cofrestr o strwythurau a nodweddion sy'n debygol o effeithio ar berygl llifogydd
- Pwerau cydsynio a gorfodi ar gyrsiau dŵr cyffredin.
Am restr lawn o ddyletswyddau statudol a phwerau caniataol yr ALlLlA, cyfeiriwch at Adran 5.4.2 o’n Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ei swyddogaeth fel yr Awdurdod Priffyrdd sydd â'r prif gyfrifoldeb am sicrhau bod y ffyrdd a'r priffyrdd (ac eithrio traffyrdd a'r priffyrdd) yn ei ardal yn glir o rwystrau ac i reoli a chynnal y seilwaith draenio dŵr wyneb i ddraenio dŵr wyneb o briffyrdd.
Yn rhan o'i swyddogaeth, mae'n gyfrifol am wneud gwaith arferol ac adweithiol i sicrhau bod systemau draenio priffyrdd yn gweithio i'r eithaf.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel Corff Mabwysiadu a Chymeradwyo Systemau Ddraenio Gynaliadwy (SDCau)
Mae Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol yng Nghymru hefyd yn ymgymryd â rôl Corff Mabwysiadu a Chymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau). Yn y rôl yma mae ganddyn nhw ddyletswydd i sicrhau bod draeniad dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd sydd â goblygiadau draenio yn cael ei adeiladu a'i fod yn gweithredu yn unol â Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) cyn i'r gwaith adeiladu ddigwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y Corff Mabwysiadu a Chymeradwyo Systemau Ddraenio Gynaliadwy (SDCau) yma.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r Awdurdod Rheoli Risg sydd â chyfrifoldebau am reoli'r perygl o lifogydd o'r prif afonydd a'r môr, ac am reoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru hefyd rôl oruchwylio ehangach ar gyfer yr holl waith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.
Mae dyletswyddau statudol a phwerau caniataol Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys:
- Adrodd i’r Gweinidog ar berygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru gan gynnwys cymhwyso’r Strategaeth Genedlaethol.
- Rhagweld, rhybuddio a hysbysu am lifogydd posibl a gwirioneddol o bob ffynhonnell o lifogydd mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y Swyddfa Dywydd
- Pwerau i ddynodi strwythurau neu nodweddion penodol sy'n effeithio ar berygl llifogydd neu erydu arfordirol.
Am ragor o wybodaeth am rôl a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru fel Awdurdod Rheoli Risg, cyfeiriwch at Adran 5.4.1 o’n Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.
Gallwch ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru am ragor o wybodaeth
Dŵr Cymru yw’r cwmni trin dŵr a charthffosiaeth rhanbarthol sy’n gwasanaethu Rhondda Cynon Taf ac fel Awdurdod Rheoli Risg sy’n gyfrifol nid yn unig am ddarparu dŵr, ond hefyd am wneud trefniadau priodol ar gyfer draenio dŵr budr, trin gwastraff, carthffosydd dŵr wyneb a charthffosydd cyfun. Eu prif gyfrifoldeb am lifogydd o systemau dŵr a charthffosiaeth, sydd â'r modd i gynnwys llifogydd carthffosydd, pibellau wedi byrstio neu brif bibellau dŵr neu lifogydd sy'n cael eu hachosi gan fethiannau yn y system.
Dŵr Cymru mae eu dyletswyddau statudol yn cynnwys:
- Dyletswydd i weithredu'n gyson â'r Strategaeth Genedlaethol
- Dyletswydd i roi sylw i gynnwys y Strategaeth Leol berthnasol
- Cydweithredu ag Awdurdodau eraill, gan gynnwys rhannu data.
Am ragor o wybodaeth am rôl a chyfrifoldebau Dŵr Cymru fel Awdurdod Rheoli Risg, cyfeiriwch at Adran 5.4.3 ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.
Ewch i wefan Dŵr Cymru am ragor o wybodaeth.
Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru sy'n gyfrifol am y rhwydwaith o gefnffyrdd sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros reoli perygl llifogydd ar draffyrdd a draeniau priffyrdd o dan y Ddeddf Priffyrdd, adran 100. Rhaid i'r Asiantaeth Cefnffyrdd sicrhau nad yw unrhyw brosiectau ffyrdd yn cynyddu'r perygl o lifogydd ac nad yw gollyngiadau o ffyrdd yn llygru cyrff dŵr derbyn.
Ewch i Traffig Cymru i gael rhagor o wybodaeth am Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.
Os ydych chi'n berchen ar dir neu eiddo sydd wedi'i leoli wrth ymyl neu'n ffinio â dyfrffordd (cwrs dŵr, nant, ffos) yna mewn termau cyfreithiol rydych chi'n Berchennog Glannau'r Afon ac mae gennych chi hawliau a chyfrifoldebau penodol o dan gyfraith gwlad. Mae Perchnogion Glannau'r Afon yn gyfrifol yn gyfreithiol o dan gyfraith gwlad am gynnal a chadw'r tir yn gyffredinol hyd at linell ganol unrhyw gwrs dŵr sy'n gyfagos i'w heiddo. Mae hyn yn cynnwys cynnal a chadw gwely'r afon, y cloddiau, ac unrhyw nodweddion ffin.
Mae preswylwyr, perchnogion eiddo a busnesau'n gyfrifol am amddiffyn eu heiddo eu hunain rhag llifogydd yn ogystal â chynnal a chadw seilwaith draenio dŵr preifat fel landeri a ffosydd cerrig. Mae gan breswylwyr yr hawl i amddiffyn eu heiddo cyn belled dydyn nhw ddim yn cynyddu'r risg o lifogydd i eiddo eraill wedi hynny.
Cynghorir preswylwyr, perchnogion eiddo a busnesau i adolygu eu parodrwydd personol ar gyfer llifogydd i sicrhau eu bod mor barod â phosibl ar gyfer unrhyw ddigwyddiad llifogydd. Mae rhagor o wybodaeth am sut i fod yn fwy parod ar gyfer llifogydd ar ein tudalennau Ymwybyddiaeth a Pharodrwydd Llifogydd pwrpasol.