Skip to main content

Gwneud cais am Docyn Teithio Rhatach i Bobl 60 Oed a Hŷn

Trafnidiaeth Cymru sydd bellach yn cyhoeddi cardiau Teithio Rhatach.  Y ffordd hawsaf a chyflymaf i gael eich cerdyn teithio yw trwy wneud cais ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Bydd gofyn i chi lwytho un ddogfen sy'n dangos prawf o ddyddiad geni, dwy ddogfen â'ch cyfeiriad arnyn nhw, ffotograff lliw a fyddai'n dderbyniol ar gyfer pasbort a darparu'ch Rhif Yswiriant Gwladol. Mae rhestr gyflawn o ddogfennau derbyniol i'w gweld ar wefan Trafnidiaeth Cymru. Fydd dim modd i chi gwblhau eich cais os na ddarperir yr wybodaeth yma. Ar gyfer gwneud cais ar-lein, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru a dilynwch y cyfarwyddiadau syml.                                   

Os does dim modd i chi wneud cais ar-lein, beth am ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i wneud cais ar eich rhan.  Fel arall, os does neb ar gael i roi cymorth i chi, trefnwch apwyntiad i fynd i Ganolfan IBobUn, lle bydd rhywun ar gael i'ch helpu i gwblhau'ch cais. Mae modd trefnu hyn ar-lein yma www.rctcbc.gov.uk/archebu neu drwy ffonio 01443 425005. Sicrhewch eich bod yn mynd â'r dystiolaeth gywir gyda chi, neu fydd dim modd i ni brosesu eich cais.

Pryd fydd fy ngherdyn teithio newydd yn cyrraedd?

Dylai Trafnidiaeth Cymru bostio'ch cerdyn teithio i'ch cyfeiriad cartref cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Rydw i'n 60 oed ymhen ychydig wythnosau. Pryd ydw i'n cael gwneud cais?

Mae modd i chi wneud cais am gerdyn teithio hyd at 14 diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 60 oed.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau pellach, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu ffoniwch 0300 303 4240.