Skip to main content

Darpariaeth Cludiant i'r Coleg

Mae'n bosibl y bydd modd i ni gynnig cludiant am ddim i rai myfyrwyr rhwng 16 ac 19 oed sy'n parhau â'u haddysg ar ôl Blwyddyn 11.

Does dim gofyniad cyfreithiol i Gynghorau ddarparu cludiant i fyfyrwyr ôl-16 oed. Fodd bynnag, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig cludiant i fyfyrwyr cymwys sy'n astudio cyrsiau coleg cymeradwy.

Pwy sy'n gallu hawlio cludiant am ddim?

Mae'n bosibl y byddwch chi'n gymwys os ydych:

  • Yn byw yn Rhondda Cynon Taf.
  • Yn 16-18 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
  • Yn mynd i'ch campws coleg agosaf i astudio cwrs llawn amser cymeradwy.
  • Yn byw 3 milltir neu ragor ar droed o'r ysgol neu goleg.

Mae meini prawf cymhwysedd eraill i'w gweld yn y dolenni canlynol:

Sut mae gwneud cais am ddarpariaeth cludiant i'r coleg?

  • Rhaid i chi fod â manylion eich cwrs wrth law i gyflwyno cais am gludiant. 
  • Defnyddiwch gyfeiriad e-bost hawdd ei gyrchu i weld gohebiaeth yn hawdd.

Nodwch:

  • Mae ceisiadau fel arfer yn cael eu hasesu o fewn 21 diwrnod.
  • Bydd diweddariadau'n cael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost a nodwyd ar y cais.
  • Gwiriwch eich ffolder sbam a ffolder sothach os na fyddwch chi'n derbyn ymateb.
  • Bydd ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn cael eu prosesu cyn mis Awst.
Nodwch - Peidiwch â chyflwyno cais arall os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais ar-lein, oni bai bod eich cyfeiriad neu gwrs wedi newid.

Gwybodaeth arall

Gostyngiadau teithio i bobl ifainc

Mae cynllun Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru yn cynnig teithiau rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i unigolion 16-21 oed ledled Cymru.

Dysgwch ragor:

Gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus 

I gael gwybodaeth am wasanaethau bws a thrên, cysylltwch â Traveline Cymru: