Mae'r system yma'n fwyaf addas ar gyfer prosiectau bach sy'n cael eu cynnal gan adeiladwr cymwys. Dydyn ni ddim yn ei argymell oni bai fod gan eich adeiladwr a'ch dylunydd brofiad da yn y math o brosiect rydych chi'n ymgymryd ag ef, a rhaid iddyn nhw fod yn gwbl effro i ofynion y Rheoliadau Adeiladu.
O dan y cynllun yma, fydd dim cymeradwyaeth ffurfiol o'r cynlluniau; mae'r gwaith yn cael ei gymeradwyo ar y safle wrth iddo fynd yn ei flaen.
I ddefnyddio'r broses Hysbysiad Adeiladu bydd angen i chi neu'ch asiant gyflwyno ffurflen gais Hysbysiad Adeiladu ynghyd â chynllun o leoliad y safle a'r ffi ofynnol. Caiff y gwaith ddechrau 48 awr ar ôl i'r hysbysiad gael ei dderbyn.
Pan fydd y gwaith yn cychwyn, bydd un o'n syrfewyr yn cwrdd â'ch adeiladwr i drafod eich amcanion, cytuno ar sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud, cytuno pryd y bydd angen archwilio'r gwaith a phenderfynu a fydd angen rhagor o wybodaeth, er enghraifft, cyfrifiadau strwythurol neu luniadau.
Pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau yn foddhaol, bydd Tystysgrif Cwblhau Rheoliadau Adeiladu yn cael ei rhoi sy'n dangos bod y prosiect wedi cael ei arolygu'n annibynnol a'i fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, cyn belled â bod modd ei asesu.
Mae modd cael ffurflenni ar gyfer cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu drwy ffonio neu ddod i'n swyddfeydd. Yn ogystal â hynny, mae modd eu lawrlwytho o'n gwefan.
Dychwelyd i'r dudalen flaenorol
Cyflwynwch Gais am Reoliadau Adeiladu
Rheoleiddio
Er mwyn cwblhau eich cais, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol.
- Enw, Cyfeiriad (gan gynnwys cod post), E-bost, a Rhif ffôn cyswllt yr Ymgeisydd
- Enw, Cyfeiriad (gan gynnwys cod post), E-bost, a Rhif ffôn cyswllt yr Asiant (os yw'n berthnasol)
- Cyfeiriad Lleoliad y Gwaith Anawdurdodedig (gan gynnwys cod post).
- Disgrifiad Llawn o'r 'Gwaith Anawdurdodedig'
Ar gyfer y math yma o gais, bydd gofyn i chi lanlwytho copïau o gynlluniau a gwybodaeth arall yn dangos holl fanylion adeiladu'r gwaith sydd wedi'i gwblhau cyn i chi allu cyflwyno'r cais. Cyn bwrw ymlaen â chais, sicrhewch fod gyda chi'r dogfennau yma wedi'u harbed yn barod i'w lanlwytho.
Ni fydd gofyn i chi dalu ffi wrth gyflwyno cais. Bydd y ffi yn cael ei chyfrifo gan y Garfan Rheoli Adeiladu wedi iddi hi dderbyn eich cais. Bydd aelodau’r garfan yn rhoi gwybod i chi am gyfanswm y ffi sydd angen ei thalu mewn da bryd.
Cyflwynwch Gais am Reoliadau Rheolaeth Adeiladu
Cyflwynwch Gais am Reoliadau Adeiladu Cynlluniau Llawn ar-lein