Os yw gwaith yn cael ei wneud heb gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu, efallai bydd y perchennog yn cael ei erlyn. Serch hynny, i roi cymorth i'r bobl hynny sydd eisiau cael gwaith wedi'i gymeradwyo, mae trefn newydd o'r enw rheoleiddio.
Cais rheoleiddo yw cais ôl-weithredol sy'n ymwneud â gwaith blaenorol sydd heb ei awdurdodi, hynny, yw, gwaith a wnaed heb ganiatâd rheoliadau adeiladu a gafodd ei ddechrau ar 11 Tachwedd 1985 neu ar ôl hynny.
Bwriad y broses yw rheoleiddio'r gwaith anawdurdodedig a chael tystysgrif rheoleiddio. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai bydd rhaid datguddio'r gwaith, cael gwared arno neu ei gywiro er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.