Mae'r Rheoliadau Adeiladu yn gosod safonau derbyniol gofynnol. Dydyn nhw ddim yn cwmpasu safonau crefftwaith neu orffeniadau – dim ond y gofynion o ran sicrhau gwaith adeiladu diogel.
Mae’n bosibl na fydd adeilad sy’n bodloni Rheoliadau Adeiladu yn bodloni’r safonau rydych chi’n eu disgwyl o ran y gwaith gorffenedig. Dylech chi fod y neffro i hynny wrth i chi gychwyn trefniadau contract gyda’ch adeiladwr.
Yn ôl y gyfraith, mae hi’n ofynnol i’r adeiladwr a’r perchennog wneud Cais Rheoliadau Adeiladu priodol ac i gydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu. O beidio â gwneud hynny, fe allai camau erlyn mewn Llys Ynadon gael eu cymryd.
Dyma rai prosiectau y mae’n bosibl bydd angen Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu ar eu cyfer
- Estyniadau
- Addasu a throsi garej
- Trosi llofft
- Trosi seler
- Newidiadau i strwythur e.e. dymchwel waliau sy’n cynnal pwysau
- Newid i systemau draenio, dŵr poeth neu wresogi
- Ffenestri newydd
- Gwaith Trydan
- Ailosod gorchuddion to
- Inswleiddio wal ddwbl
- Rhai garejis
- Rhai ystafelloedd gwydr
Os ydych chi’n ystyried prosiect adeiladu, ond dydych chi ddim yn siwr a oes eisiau Rheoliadau Adeiladau arnoch chi, Cysylltwch a ni i gael cyngor Ffon: 01443 281156 Ebost: rheoliadeiladu@rctcbc.gov.uk
Proses Rheoliadau Adeiladu
Os bydd eisiau cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu arnoch chi, bydd raid gwneud cais.
Galwch heibio i wefan Rheoliadau Adeiladu Awdurdodau Lleol i gael gwybodaeth am bryd bydd eisiau cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnoch chi