Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin Rheoli Adeiladu

Meddlw am werthu eich eiddo?

Bydd nifer o broblemau yn codi wrth werthu tŷ. Mi allwn ni eich cynorthwyo i ddelio â'r rhain yn gynnar yn y dechrau gyda chymorth y Gwasanaeth Rheoli Adeiladu. Fe allai fod yn bosibl fel hyn i leihau'r siawns o oedi, neu risg colli'r cyfle pwysig i werthu'r tŷ.

Sut gall y Gwasanaeth Rheoli Adeiladu fod o gymorth wrth werthu eich cartref?

Yn ystod proses y trawsgludo, bydd eich cyfreithwyr fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i chi lenwi dogfen gosodion a ffitiadau. Mae'n ofynnol i chi nodi yn y ddogfen hon unrhyw waith adeiladu sydd wedi cael ei wneud ac roedd cais Rheoliadau Adeiladu yn ofynnol ar ei  gyfer. Os yw newidiadau, addasiadau, ac estyniadau i adeiladau wedi cael eu cyflawni heb gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu, daw'r rhain i'r amlwg yn ystod ymchwiliadau'r rhai sy'n prynu'r tŷ. Os nad yw'r tystysgrifau cwblhau perthnasol mewn grym fe allai hyn beri oedi wrth werthu eich eiddo.

Mae gen i gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu, ond does gen i dystysgrif gwblhau.

Os oes cais heb ei gwblhau am gymeradwyo Rheoliadau Adeiladu, ond nad yw tystysgrif gwblhau wedi cael ei dyroddi, mae'n bwysig iawn felly drefnu i un o'n Tîm Rheoli Adeiladu gyflawni'r arolygiad cwblhau ar y cyfle cyntaf. Os bydd yr arolygiad o bob agwedd berthnasol ar y gwaith adeiladu yn foddhaol, fe geir dyroddi tystysgrif gwblhau yn barod i'r cyfreithwyr.

Pryd sydd angen i mi gyflwyno cais?

Rhaid iddoch gyflwyno cais cyn bod unrhyw waith yn cael ei ddechrau, rhaid iddoch dderbyn cadarnhad wrthom cyn dechrau ar y gwaith.

Pa fath o cais sydd angen i mi gyflwyno?

Gall disgrifiad o'r mathau o geisiadau cael ei gweld isod:

Mae gwaith wedi cael ei gyflawni, ond doeddwn i ddim yn gwybod fod angen gwneud cais Rheoliadau Adeiladu.

Cyhoeddwyd yr arweiniad yma er mwyn cadw hyn rhag digwydd. Os byddwch chi'n eich cael eich hun yn y sefyllfa hon, serch hynny, bydd raid gwneud cais am Dystysgrif Unioni. Cais Rheoliadau Adeiladu ôl-weithredol yw hyn, i'w ddefnyddio ar gyfer unrhyw waith wedi'i wneud ar ôl 1985.  Fel arfer, bydd y gwaith wedi’i gwblhau, sy’n golygu efallau bydd angen i elfennau penodol o’r gwaith gael ei ‘agor’ er mwyn sicrhau bod Rheoliadau Adeiladu wedi’u bodloni

Cysylltwch â'r Garfan Rheoli Adeiladu.

Oes gyda chi gwestiwn? Neu hoffech chi inni alw heibio i'ch eiddo i gynnal archwiliad? Ffoniwch : 01443 281156 Ebost : rheoliadeiladu@rctcbc.gov.uk