Skip to main content

Gwerthusiadau Ardaloedd Cadwraeth

Mae gan Rondda Cynon Taf dreftadaeth hanesyddol a phensaernïol gyfoethog, a chaiff hi ei hadlewyrchu mewn nifer fawr o Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb, o bryd i'w gilydd, i adolygu a llunio cynigion ar gyfer rheoli ei Ardaloedd Cadwraeth. Mae'r Cyngor bellach yn ymgymryd â rhaglen o adolygiadau ac mae wedi mabwysiadu tri gwerthusiad hyd yn hyn.

Pwrpas Gwerthusiad Ardal Gadwraeth yw ymchwilio a dadansoddi nodweddion Ardal Gadwraeth, ac edrych ar yr hyn sy'n ei gwneud yn arbennig ac yn deilwng o gael ei dynodi. Mae nodweddion allweddol sy'n cyfrannu at y diddordeb arbennig yn cael eu nodi, yn ogystal ag ardaloedd lle efallai fydd cyfleoedd i'w gwella. Bydd y Gwerthusiad hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer rheoli'r Ardal Gadwraeth drwy'r system gynllunio. Gall gwerthusiadau fod yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar unrhyw gais am Ganiatâd Cynllunio

Canol Tref Aberdâr

Cafodd Gwerthusiad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Canol Tref Aberdâr ei fabwysiadu ym mis Rhagfyr 2008. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Cyngor wedi llunio Cyfarwyddiadau'n cyfyngu ar hawliau 'datblygu a ganiateir' mewn perthynas ag eiddo o fewn yr Ardal Gadwraeth.

Mae Cyfarwyddiadau Erthygl 4(1) ac Erthygl 4(2), a gafodd eu gwneud o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, wedi'u gwneud a'u cadarnhau, ac maen nhw bellach mewn grym yn barhaol.

Mae'r Cyfarwyddiadau'n dileu hawliau i wneud newidiadau penodol i eiddo yn Ardal Gadwraeth Aberdâr heb gael caniatâd cynllunio yn gyntaf.

Mae'r Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) yn dileu hawliau i wneud newidiadau penodol i dai annedd yn unig. Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) yn dileu hawliau i wneud newidiadau penodol i bob eiddo arall o fewn yr Ardal Gadwraeth.

Gweld Ardal Gadwraeth Ganol Tref Aberdâr ar fap

Llantrisant

Cafodd Gwerthusiad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Llantrisant ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 2011, yn ogystal â lleihad yn y ffin.

Dydy Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) a gafodd ei wneud ddim wedi cael ei gadarnhau, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r Cyngor yn bwriadu llunio Cyfarwyddyd diwygiedig yn 2012. Bydd yr amserlen ar gyfer hyn yn cael ei chadarnhau.

Gweld Ardal Gadwraeth Llantrisant ar fap

Canol Tref Pontypridd

Cafodd Gwerthusiad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Canol Tref Pontypridd ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 2011, yn ogystal ag ymestyn y ffin.

Mae'r dogfennau ar gyfer pob Ardal Gadwraeth ar gael ar y tudalennau yma, yn Llyfrgelloedd Aberdâr, Llantrisant a Phontypridd, a hefyd yn yr Adran Gynllunio yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd.

Gweld Ardal Gadwraeth Ganol Tref Pontypridd ar fap

Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy ffonio 01443 281130 / 01443 281134 neu e-bostio gwasanaethaucynllunio@rctcbc.gov.uk.