Skip to main content

Ardaloedd cadwraeth

Beth yw ardal gadwraeth?

Ardal Gadwraeth yw ardal y mae'r awdurdod lleol yn ei dynodi sy'n haeddu sylw arbennig er mwyn diogelu ei chymeriad cymdeithasol, hanesyddol neu bensaernïol.

Fydd pob adeilad yn yr ardal ddim yn rhestredig o reidrwydd, ond efallai y bydd angen caniatâd i wneud unrhyw waith arnyn nhw a all effeithio ar gymeriad yr ardal.

Mae adran 69 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn rhoi'r pŵer i awdurdodau cynllunio lleol ddynodi Ardaloedd Cadwraeth. Diffiniad ardal gadwraeth yw: ‘ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac y mae'n ddymunol gwarchod neu wella'i chymeriad neu’i golwg’.

Mae dynodi'r safleoedd hyn yn rhoi rheolaeth i'r awdurdod dros yr hawl i ddymchwel adeiladau, ac mae'n rhoi sail i bolisïau ar gyfer cadw neu wella pob agwedd ar gymeriad neu olwg ardal arbennig.

Beth yw ystyr dynodi?

Mewn Ardal Gadwraeth, mae gan y Cyngor reolaeth ychwanegol dros y canlynol:

  • Dymchwel
    Er mwyn dymchwel adeilad, neu ran ohono, mae rhaid cael Caniatâd Ardal Gadwraeth. Mae hi hefyd yn debygol y bydd angen Caniatâd Ardal Gadwraeth er mwyn dymchwel waliau, ffensys a nodweddion tebyg eraill, neu ran ohonyn nhw. Cyn gwneud unrhyw waith, gofynnwch i'r Cyngor. Mae Caniatâd Ardal Gadwraeth, a'r ffurflenni cais, ar gael yma.
  • Datblygiadau bach
    Mewn Ardal Gadwraeth, mae rhaid cael caniatâd cynllunio i newid adeilad, hyd yn oed os na fyddai angen caniatâd i'w newid fel arfer. Mae'r newidiadau y mae rhaid cael caniatâd ar eu cyfer yn cynnwys gwaith cladio, gosod ffenestri dormer neu osod dysgl lloeren mae modd ei gweld o'r stryd.
  • Coed
    Mae rhaid i unrhyw un sy'n cynnig torri coeden i lawr, tocio canghennau neu dorri pen coeden mewn ardal gadwraeth roi hysbysiad i'r Cyngor, p'un ai bod y goeden dan orchymyn cadw coed neu beidio. Bydd y Cyngor yn ystyried cyfraniad y goeden at gymeriad yr Ardal Gadwraeth ac, os bydd angen, bydd yn llunio gorchymyn cadw coed i'w hamddiffyn.

Dod o hyd i ragor o wybodaeth o ran caniatâd ardal gadwraeth ar gyfer dymchwel.

Sut mae dewis Ardaloedd Cadwraeth i'w dynodi?

Fel arfer, mae Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu dynodi oherwydd eu hadeiladau, ond gallan nhw hefyd gael eu dynodi oherwydd eu hanes, pensaernïaeth, cynllun, mannau preifat fel gerddi, parciau a mannau gwyrdd, coed neu gelfi stryd. Mae Ardaloedd Cadwraeth yn rhoi amddiffyniad ehangach nag y byddai rhestru adeiladau unigol a nodweddion yr ardal yn ei roi. Mae pob nodwedd, yn rhestredig neu beidio, yn cael ei chydnabod yn rhan o gymeriad yr ardal.

Gallwch wneud cais am ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer dymchwel mewn ardal gadwraeth gan ddefnyddio'r pdf isod:

Ble mae'r Ardaloedd Cadwraeth?

Gweld pob Ardal Gadwraeth yn Rhondda Cynon Taf ar fap

Rhagor o wybodaeth

Mae'r gwefannau canlynol yn darparu rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ardaloedd cadwraeth:

Cysylltu â ni

Gwasanaeth Cynllunio

Tŷ Sardis,
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: 01443 281130 / 01443 281134

Mae'r swyddfa ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am–5pm.