Mae Rhondda Cynon Taf yng nghanol y Cymoedd, ac wrth wraidd cyfoeth o fioamrywiaeth. Mae priddoedd sy'n brin o faetholion, topograffeg gymhleth, geomorffoleg a daeareg, hinsawdd wlyb fwyn, rheoli ffermydd bach mewn modd traddodiadol ac etifeddiaeth ddiwydiannol y Cymoedd yn golygu bod yr holl gydrannau ar gyfer bioamrywiaeth gyfoethog ar waith.
Mae ein rhostir traddodiadol yn cynnal poblogaethau o löynnod byw britheg y gors, sy'n bwysig ar lefel rhyngwladol. Mae’r Cwm bryniog yn y de a Chwm Cynon yn y gogledd yn dirweddau ffermio hynafol, gyda phorfeydd blodau gwyllt cyfoethog ac ystlumod pedol lleiaf. Mae'r patrymau caeau hynafol, gyda gwrychoedd wedi'u torri o'r coed gwyllt gwreiddiol, yn ffurfio rhan o rwydwaith coetir cymhleth y mae llygod daear yn symud drwyddo.
Mae ein Cymoedd yn gartrefi i frithwaith di-dor cyfoethog o ffriddoedd, sy'n rhedeg am filltiroedd ar hyd ochrau dyffrynnoedd ac yn darparu cysylltedd cynefin perffaith a chynefin gwych i ymlusgiaid. Yn gymysg â'r ffriddoedd, mae cynefinoedd yn y tomenni gwastraff y glofeydd yn aml yn gyfoethog mewn ffyngau ac yn darparu cynefin eithriadol i 85 rhywogaeth o wenyn ynghyd â glöyn llwyd, gwibiwr llwyd a glöyn byw bach glas.
Yn yr ucheldir, mae yna nifer fawr o fawndiroedd, rhostiroedd gwlyb a glaswelltiroedd asidig, gyda’r cymoedd rhewlifol mwyaf deheuol yn Ynysoedd Prydain. Ynghyd â Chastell-nedd Port Talbot, mae'r rhain yn gynefinoedd o botensial eithriadol, sy'n gartref i boblogaethau o lygod pengrwn y dŵr sydd newydd eu darganfod.
Rydyn ni'n falch iawn o'n bywyd gwyllt ac mae ein partneriaeth yn gweithio'n galed i warchod, gwella a dathlu ein bioamrywiaeth wych.