Ein dyletswydd o ran bioamrywiaeth
Mae cynllun Gweithredu Dros Natur yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth ledled Rhondda Cynon Taf ar gyfer ystod eang o bartneriaid. Mae gyda'r Awdurdod gyfrifoldebau penodol o ran bioamrywiaeth. Maen nhw i'w gweld o dan Adran 6 (6) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yr enw ar hyn yw'r 'Ddyletswydd o ran Bioamrywiaeth'.
Mae ein dogfen Dyletswydd o ran Bioamrywiaeth yn amlinellu cyfrifoldebau a chynlluniau Rhondda Cynon Taf ynghylch rheoli bioamrywiaeth ledled y Fwrdeistref Sirol.
Yn 2017, cafodd adroddiad drafft ei lunio ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn nodi'r cynigion ar gyfer gweithredu'r Ddyletswydd o ran Bioamrywiaeth newydd. Cafodd y cynigion eu derbyn a chafodd taenlen Gweithredu Dyletswydd ei llunio. Cafodd adroddiad ar hynt y gwaith ei osod ger bron y Cabinet a'r Grŵp Craffu ar Newid yn yr Hinsawdd ym mis Hydref 2019.
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Rhondda Cynon Taf
Mae 'Gweithredu Dros Natur' (Action for Nature) yn gynllun i helpu natur i ffynnu yn Rhondda Cynon Taf. Mae gyda ni fywyd gwyllt anhygoel ar ein stepen drws. Darllenwch am Daith Bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf i ddysgu rhagor.
Pe hoffech chi helpu bywyd gwyllt, mae modd i chi ymuno â'r Bartneriaeth Natur Lleol, grŵp lleol neu un o'r nifer fawr o sefydliadau bywyd gwyllt. Hoffech chi ragor o fanylion? E-bostiwch bioamrywiaeth@rctcbc.gov.uk
Polisi Trin Lleiniau Glas
Rydyn ni'n ffodus iawn yn Rhondda Cynon Taf fod gyda ni ddolydd a chorsydd sy'n llawn blodau gwyllt o hyd. Yn y rhan fwyaf o Brydain, mae'r cynefinoedd prin yma oll wedi diflannu. Rydyn ni hefyd yn lwcus iawn bod llawer o'n lleiniau glas a'n mannau agored yn cefnogi'r un blodau gwyllt. Pan dydyn ni ddim yn torri'r gwair ac mae'n cael cyfle i dyfu, mae modd i ni weld blodau hardd y lleiniau, sy'n darparu cynefin pwysig i wenyn, glöynnod byw, gwyfynod a phryfed hofran.
Ar ôl i'r blodau a'r gwair osod a gollwng eu hadau, bydd yr ardal yn cael ei thorri a'r 'gwellt' (y toriadau) yn cael ei gasglu. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn yr hydref, gan ddefnyddio peiriant 'torri a chasglu' arbennig sy'n casglu'r toriadau. Yna, maen nhw'n cael eu defnyddio i greu 'pentyrrau cynefin' i fod yn gartrefi i nadroedd defaid ac ymlusgiaid eraill sydd hefyd dan fygythiad ledled y Deyrnas Unedig.
Mae cael gwared ar y toriadau yn gam pwysig iawn gan ei fod yn atal rhagor o faetholion rhag cael eu hailgylchu o fewn y pridd. Os yw toriadau'n cael eu golchi i'r pridd, maen nhw'n torri i lawr ac yn ei ffrwythloni. Mae hyn yn annog mwy o laswellt i dyfu ac mae'r pridd yn mynd yn rhy ffrwythlon i flodau gwyllt ffynnu. Drwy gael gwared ar y toriadau, bydd yr ardal yn fwy ffrwythlon o ran blodau o flwyddyn i flwyddyn a bydd yn dod yn gynefin hanfodol i bryfed ac anifeiliaid eraill i fyw, bwydo a bridio.
Pe hoffech chi ragor o wybodaeth, cliciwch ar ein Polisi Rheoli Glaswellt Blodau Gwyllt.
Mae modd i chi hefyd ddarllen yr Adroddiad ar Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn – sy'n tynnu sylw at ganlyniadau arolwg o rai o'n lleiniau ymyl y ffordd.
Adar sy'n nythu
Mae adar sy'n nythu yn cael eu diogelu gan y gyfraith. Mae'r Cyngor yn darparu cyngor i gontractwyr ac aelodau o staff.