Rhoi gwybod am weld bioamrywiaeth
Mae sawl ffordd o helpu byd natur i ffynnu yn Rhondda Cynon Taf. Gall camau gweithredu bach, fel mynd â'ch sbwriel adref gyda chi, aros ar lwybrau cerdded a glynu at y cod cefn gwlad, wneud gwahaniaeth mawr.
Ffordd wych arall o gymryd rhan yw rhoi gwybod am yr hyn rydych chi'n ei weld a rhannu lluniau. Trwy roi gwybod am yr hyn rydych chi'n ei weld yn Rhondda Cynon Taf, mae modd cyfrannu at ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth ni am fioamrywiaeth leol.
Mae diddordeb gyda ni mewn clywed am achosion o weld y fioamrywiaeth ganlynol:
- Blodau gwyllt
- Adar
- Gloÿnnod byw a gwyfynod
- Ffyngau
- Ymlusgiaid ac amffibiaid
- Mamaliaid
Mae modd cyflwyno’r hyn rydych chi wedi’i weld trwy glicio ar y botwm isod:
Lleoliad yr hyn a welsoch chi
Mae ein ffurflen 'Rhoi gwybod am weld bioamrywiaeth' yn rhoi cyfle i chi nodi lleoliad penodol yr hyn a welsoch chi trwy ddewis yr opsiwn 'Map Ar-lein' ar y ffurflen. Fodd bynnag, os nad oes modd i chi wneud hynny, nodwch gymaint o fanylion â phosibl am y lleoliad.
Mae modd i chi ddefnyddio What3Words er mwyn rhannu manylion lleoliad. Defnyddiwch yr ap neu'r wefan er mwyn dod o hyd i'r 3 gair sy'n nodi union leoliad.
Darparu lluniau
Mae modd lanlwytho nifer o luniau wrth lenwi ein ffurflen 'Rhoi gwybod am weld Bioamrywiaeth'.
Cyn i chi fynd...
Cofiwch gyflwyno eich cofnodion i Ganolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC). Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gofnodi a chyflwyno eich cofnodion i SEWBReC yma:
SEWBReC :: cofnodi