Skip to main content

Gorchmynion Datblygu Lleol

Gorchymyn Datblygu Lleol Ystad Ddiwydiannol Trefforest a Pharc Nantgarw 2017

 

Cafodd Gorchymyn Datblygu Lleol Ystad Ddiwydiannol Trefforest a Pharc Nantgarw (GDLl) ei fabwysiadu gan Rondda Cynon Taf ar 8fed Awst 2017. Mae'r Gorchymyn Datblygu Lleol yn symleiddio'r broses gynllunio yn yr ardal hon drwy ddileu'r angen am gais cynllunio am rai datblygiadau penodol.

LDO Area
 Ffin Gorchymyn Datblygu Lleol Ystad Ddiwydiannol Trefforest a Pharc Nantgarw

A allai'r Gorchymyn Datblygu Lleol o fudd i'm Busnes i?

 

Mae'r Gorchymyn Datblygu Lleol yn dileu'r angen am gais cynllunio ffurfiol am rai datblygiadau penodol o fewn y categorïau canlynol:

  • Datblygu adeiladau newydd ar gyfer defnyddiau cyflogaeth;
  • Estyniadau ac altradau i adeiladau presennol;
  • Newidiadau defnydd adeiladau presennol, neu rhwng defnyddiau cyflogaeth;
  • Darparu strwythurau, llochesau, a gwaith allanol;
  • Newidiadau defnydd rhwng defnyddiau manwerthu;
  • Unedau manwerthu graddfa fechan newydd (dim ond mewn rhan o Ystad Ddiwydiannol Trefforest yn unig).

Noder fod gan rai mannau penodol o fewn ffin y Gorchymyn Datblygu Lleol hawliau llawer mwy cyfyngedig nag eraill o dan y Gorchymyn Datblygu Lleol, a bod pob un o'r holl gategorïau uchod yn amodol ar eithriadau, cyfyngiadau ac amodau. Cliciwch yma ar gyfer fersiwn lawn y Gorchymyn Datblygu Lleol.

Ydych chi'n meddwl y gallai eich busnes chi elwa o'r Gorchymyn Datblygu Lleol? Croeso i chi gysylltu â Helen Winsall ar 01443 494721 neu helen.e.winsall@rctcbc.gov.uk yn y lle cyntaf, am drafodaeth anffurfiol. 


Pam cael Gorchymyn Datblygu Lleol?

Mae Rhondda Cynon Taf yn ymrwymedig i dwf busnes a datblygu ac yn cydnabod pwysigrwydd Ystad Ddiwydiannol Trefforest, sef yr ystad gweithiol hynaf yng Nghymru. Mae Ystad Ddiwydiannol Trefforest yn ogystal â Pharc Nantgarw yn safle cyflogaeth strategol yn Ne-ddwyrain Cymru sy'n creu budd economaidd ar gyfer y rhanbarth gyfan yn sgîl ei fusnesau allweddol, lleoliad delfrydol, cysylltiadau cludiant a Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch.

Mae rhaid i'r ardal weithredu a datblygu i'w llawn botensial mewn amgylchedd busnes modern er mwyn parhau i greu cyfleoedd cyflogaeth ac arloesedd allweddol, mae Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda phartneriaid i greu'r cyfleoedd yma.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol i Ystad Ddiwydiannol Trefforest a Pharc Nantgarw i gefnogi'r gwaith yma gyda'r nod o hyrwyddo datblygu pellach yn yr ardal hon a chynorthwyo i gyflawni'r potensial uchod. Mae'r Cyngor am ddatblygu'r ardal yma gan ei gwneud hi'n haws i fusnesau ehangu'u hadeiladau neu adeiladu rhai newydd.

Hoffech chi gael gwybodaeth bellach ar pam y cyflwynwyd y Gorchymyn Datblygu Lleol, a'r rhesymau dros ei gynnwys? Croeso i chi edrych ar y Datganiad o'r Rhesymau dros wneud y Gorchymyn wedi'i addasu o fewn y ddogfen Gorchymyn Datblygu Lleol drafft wedi'i Addasu a'r Datganiad o'r Rhesymau dros wneud y Gorchymyn wedi'i Addasu Gyfunedig.

Defnyddio'r Gorchymyn Datblygu Lleol

Os ydych chi'n credu byddai'r Gorchymyn Datblygu Lleol o fudd i'ch busnes, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion uchod am ragor o wybodaeth. Byddwn ni'n hapus i'ch helpu chi drwy'r broses.

Bydd raid i chi wneud cais am gadarnhad ffurfiol bod eich datblygiad yn cydymffurfio â'r Gorchymyn Datblygu Lleol - cliciwch yma am y ffurflen gais. Mae hyn yn rhestru'r wybodaeth sydd i'w darparu, ac mae'n rhad ac am ddim.

Ein bwriad yw cyhoeddi llythyrau o fewn 14 o ddiwrnodau. Bydd y llythyr yn hysbysu pa amodau cynllunio o fewn y Gorchymyn Datblygu Lleol sy'n berthnasol i'ch cynnig. Noder, os oes angen rhyddhau unrhyw amodau, y bydd hyn yn amodol ar ffi o £95 yn yr un modd â chais cynllunio ffurfiol.

Cyhoeddir Arweiniad Defnyddio cyn bo hir er mwyn cynorthwyo wrth ddefnyddio'r Gorchymyn Datblygu Lleol.

Ymgynghori


Bu'r Gorchymyn Datblygu Lleol yn destun ymgynghoriad anffurfiol statudol fel ei gilydd. Rhoddwyd crynodeb o'r ymgynghoriad yn Atodiadau 3 a 4 o'r Gorchymyn Datblygu Lleol drafft wedi'i Addasu a'r Datganiad o'r Rhesymau dros wneud y Gorchymyn wedi'i Addasu Cyfunedig.