Mae'r Rhestr Tir Cyflogaeth sydd ar gael yn egluro'r argaeledd tir ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae’r arolygon i gasglu’r wybodaeth yma yn cael eu cynnal yn flynyddol ac yn dilyn y data dechreuol a gafodd ei gasglu yn 2008 ac arolygon dilynol. Cafodd y data dechreuol o 2008 ei gasglu ar y cyd â Phartneriaeth Nathaniel Lichfield.
Mae'r amserlen yn dangos yr holl safleoedd cyflogaeth sydd ar gael, a'r dosbarthiadau defnydd tir o’r holl safleoedd cyflogaeth sydd wedi'u cynnwys yn yr arolwg. Mae'r tabl hefyd yn dangos arwynebedd y tir y mae modd ei ddatblygu sy'n weddill ar bob safle. Mae gwybodaeth ychwanegol, fel arwynebedd, lleoliad, disgrifiad cryno o’r safle, a chyfyngiadau, hefyd wedi'u cynnwys er mwyn darparu cyd-destun a throsolwg clir o'r safle.
Gwelwch y Rhestr Tir Cyflogaeth sydd ar gael diweddaraf, dyddiedig Mehefin/Gorffennaf 2019.