Mae polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu datblygu yn dilyn asesiad manwl o anghenion, cyfleoedd a chyfyngiadau'r Fwrdeistref Sirol.
Mae'n ofynnol bod Awdurdodau Lleol yn paratoi a chynnal a chadw cronfa wybodaeth o holl nodweddion economaidd ac amgylcheddol diweddaraf eu hardal er mwyn ffurfio cynllun datblygu sefydlog. Mae'r gronfa wybodaeth yn cael ei hadnabod fel Sylfaen Dystiolaeth y Cyngor.
Yn ogystal, mae gan y Cyngor Lyfrgell Cynllun Datblygu Lleol. Yma, mae modd dod o hyd i'r dogfennau Rhanbarthol ac Awdurdod Lleol sydd wedi dylanwadu'r Cynllun.
Mae Adroddiad Monitro Blynyddol y Cyngor yn amlinellu'r cynnydd a wnaed tuag at weithredu polisïau ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol.