Mae'n ofynnol i ni baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLl sy'n cynnwys y flwyddyn ariannol flaenorol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn
Mae'r Adroddiad Monitro Blynyddol yn helpu asesu i ba raddau y mae strategaethau a pholisïau y CDLl yn cael eu cyflawni yn unol â'r Fframwaith Monitro ac Adolygu sydd wedi eu gosod ym Mhennod 7 y CDLl. Yr Adroddiad Monitro Blynyddol yw'r prif fecanwaith ar gyfer nodi unrhyw newidiadau sydd angen i'r CDLl a’i fwriad yw gwella natur agored y broses gynllunio.