Skip to main content
Alert Symbol
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd Melyn ar gyfer glawr a gwynt rhwng 6pm, ddydd Llun, 8 Rhagfyr a hanner nos ddydd Mawrth, 9 Rhagfyr. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Adroddiad Monitro Sylfaen Dystiolaeth a Llyfrgell y Cynllun Datblygu Lleol

Mae polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu datblygu yn dilyn asesiad manwl o anghenion, cyfleoedd a chyfyngiadau'r Fwrdeistref Sirol.

Mae'n ofynnol bod Awdurdodau Lleol yn paratoi a chynnal a chadw cronfa wybodaeth o holl nodweddion economaidd ac amgylcheddol diweddaraf eu hardal er mwyn ffurfio cynllun datblygu sefydlog. Mae'r gronfa wybodaeth yn cael ei hadnabod fel Sylfaen Dystiolaeth y Cyngor. 

Yn ogystal, mae gan y Cyngor Lyfrgell Cynllun Datblygu Lleol. Yma, mae modd dod o hyd i'r dogfennau Rhanbarthol ac Awdurdod Lleol sydd wedi dylanwadu'r Cynllun. 

Mae Adroddiad Monitro Blynyddol  y Cyngor yn amlinellu'r cynnydd a wnaed tuag at weithredu polisïau ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol.