Newidiadau i ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig
NODWCH: Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r ffioedd ar gyfer cyflwyno ceisiadau cynllunio. Bydd hyn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.
Bydd y ffioedd presennol yn berthnasol i bob cais DILYS sy'n dod i law CYN y dyddiad yma.
Bydd y ffioedd newydd yn berthnasol i unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno AR 30 Tachwedd, NEU CYN Y DYDDIAD YMA, sy'n ANNILYS ac nad yw'r wybodaeth sydd ar goll/yr wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen yn cael ei darparu erbyn 5PM ar y 30ain.
Mae modd i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio yw trwy'r Porth Cynllunio.
Mae'n esbonio'r broses o lenwi'r ffurflen, gam wrth gam.
Nodwch: O 31 Mawrth 2025, fydd y Porth Cynllunio ddim yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru a bydd y tâl isod yn berthnasol:
- Tâl am wasanaeth y Porth Cynllunio wedi'i ddiweddaru: £70.83 +TAW
- Cynnydd o ran yr isafswm y mae modd ei godi: O £60 i £100 (ni fydd tâl am wasanaeth ar gyfer ceisiadau o dan £100).
Yn ystod y broses yma, mae'r ffurflen gywir yn cael ei chynhyrchu'n awtomatig.
Mae angen cyflwyno'r holl wybodaeth angenrheidiol a pherthnasol cyn cyflwyno'r ffurflen, felly, bydd y ffurflen yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen.
Fel arall, os ydych chi eisiau argraffu'r ffurflen gais, dewiswch y ffurflen berthnasol yn y tabl isod.
Cyngor ar Gyflwyno cais
Gweld rhagor o gyngor ar lenwi’ch ffurflen gais.
Noder: Cafodd rheoliadau newydd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 30 Medi 2013. Mae'r rhain wedi newid y meini prawf sy'n cael eu defnyddio wrth benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau gan ddeiliaid tai. Os ydych chi'n bwriadu gwneud y math yma o waith datblygu, edrychwch ar y wybodaeth sydd ar gael yn y Porth Cynllunio| er mwyn cael gwybod a oes angen caniatâd cynllunio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn dogfen gan Lywodraeth Cymru, sef ‘Cynllunio: arweiniad i ddeiliaid tai’.
Llenwi’ch ffurflen cais cynllunio
Ar ôl dod o hyd i'r ffurflenni cais cywir, y cam nesaf yw llenwi'r adrannau perthnasol a chyflwyno'r dogfennau a'r dyluniadau angenrheidiol gyda'ch cais cynllunio. Mae'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio yn gofyn am ffi cyflwyno|. Ar ôl dod o hyd i'r ffurflenni cais cywir, y cam nesaf yw llenwi adrannau perthnasol y ffurflen a chyflwyno'r dogfennau a'r dyluniadau angenrheidiol gyda'ch cais cynllunio. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, galwch heibio i un o'n canolfannau I Bob Un i siarad ag ymgynghorydd.
Ffioedd cais cynllunio
Fel arfer, bydd rhaid talu ffi am gyflwyno cais cynllunio. Bydd y ffi yma yn dibynnu ar y math o ddatblygiad.
Mae rhestr ffioedd ar gael i'w lawrlwytho.
Cyflwyno eich cais cynllunio
Os byddwch chi'n dewis peidio â chyflwyno cais ar-lein trwy'r Porth Cynllunio, bydd croeso i chi lenwi'r ffurflen gais a'i chyflwyno hi drwy'r post i:
Gwasanaethau Cynllunio
Llawr 2,
2 Llys Cadwyn
Pontypridd
CF37 4TH
Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ei gywirdeb gweinyddol a'r ffi briodol yn cael eu gwirio.
Byddwch chi (neu eich asiant) yn derbyn nodyn, unwaith fydd cyfeirnod unigryw, gyda manylion y swyddog cynllunio wedi'i neilltuo i'r achos.
Os oes unrhyw wybodaeth wedi'i hepgor byddwn yn ysgrifennu atoch. Fydd hi ddim yn bosibl cofrestru eich cais nes i'r wybodaeth fod yn gyflawn.