Cafodd ymgynghoriad ffurfiol Y Strategaeth A Ffefrir ei gynnal rhwng Chwefror 21ain 2024 ac Ebrill 17eg 2024. Mae’r ymgynghoriad hwn nawr wedi’i Cau.
Mae Rhondda Cynon Taf yn adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl). Y CDLl yw’r ddogfen gynllunio defnydd tir statudol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol (ac eithrio’r ardal yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).
Unwaith mae'n cael ei fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLlD) 2022-2037 yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig 2006-2021 presennol, gan ddod yn sail i bob penderfyniad cynllunio am ddefnydd tir yn Rhondda Cynon Taf.
Am ragor o wybodaeth am gefndir y CDLlD, darllenwch yma.
Beth yw'r Strategaeth a Ffefrir?
Fel rhan o gam paratoi Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir) y CDLlD, mae'r Cyngor wedi bod yn brysur yn adolygu'r sylfaen dystiolaeth, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y Materion, Amcanion, Gweledigaeth a Nodau, ac yn ystyried opsiynau strategol. Yn dilyn hyn, mae'r Strategaeth a Ffefrir bellach wedi'i pharatoi.
Ar y lefel strategol yma, bydd y Strategaeth a Ffefrir yn ceisio diwallu anghenion RhCT drwy gynnig lefelau twf tai a chyflogaeth a lle y dylai'r rhain gael eu dosbarthu ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys pennu safleoedd allweddol. Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn nodi nifer fach o bolisïau cynllunio lefel strategol i’w hehangu yn y camau dilynol o baratoi’r CDLlD.
Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir
Roedd y Strategaeth a Ffefrir yn destun i ymgynghoriad yn unol â'i gofynion statudol, rhwng Chwefror 21ain 2024 ac Ebrill 17eg 2024. Mae’r ymgynghoriad hwn nawr wedi’i Cau.
Mae’r rhain wedi’u nodi yn y Datganiad o Faterion Cyn-adneuo.
Ochr yn ochr â dogfen y Strategaeth a Ffefrir, wnaeth y Cyngor hefyd ymgynghori ar y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol/Posib. Mae’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol/Posib yn cynnwys yr holl safleoedd dilys y mae’r Cyngor wedi’u derbyn i’w hystyried i’w cynnwys yn y CDLlD. Mae'r gofrestr yn nodi'r safleoedd gan gynnwys y cynigion ac mae hefyd yn cynnwys canlyniadau asesiadau Cam 1.
Mae dogfennau eraill a gyhoeddwyd yn cynnwys yr Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig, Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a chyfres o Bapurau Sylfaen Tystiolaeth Gefndir.
Mae’r Strategaeth a Ffefrir y CDLl Diwygiedig ar gael i’w ddarllen yn y dolen isod:
Mae fersiwn Hawdd I’w Ddarllen o'r Strategaeth a Ffefrir ar gael i’w ddarllen yn y ddolen ganlynol isod:
Gwelir holl dogfenau pellach
I weld y Strategaeth a Ffefrir, Y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, yr ISA, HRA a'r holl Bapurau Sylfaen Tystiolaeth Gefndir cysylltiedig eraill, cliciwch ar ein Porth Dogfennau isod.
Yn ogystal, mae copïau o’r prif ddogfennau ar gael i’w gweld yn ystod oriau agor arferol yn y Lleoliadau Adneuo canlynol:
Llyfrgell Abercynon
|
Llyfrgell Pont-y-clun
|
Llyfrgell / Canolfan IBobUn Aberdâr
|
Llyfrgell / Canolfan IBobUn Pontypridd (Llys Cadwyn)
|
Llyfrgell Pentre'r Eglwys
|
Canolfan IBobUn / Llyfrgell Plasa'r Porth
|
Llyfrgell Glynrhedynog
|
Llyfrgell Rhydfelen
|
Llyfrgell Hirwaun
|
Llyfrgell Tonypandy
|
Llyfrgell Llantrisant
|
Llyfrgell / Canolfan IBobUn Treorci
|
Llyfrgell / Canolfan IBobUn Aberpennar
|
Llys Cadwyn, Pontypridd
|
Cafodd sesiynau ymgynghori wyneb yn wyneb eu cynnal hefyd yn y llyfrgelloedd yma fel y dangosir yn y ddolen ganlynol:
Amserlen Digwyddiadau'r Llyfrgelloedd
Am unrhyw ymholiadau pellach, gwelir ein manylion isod:
Y Garfan Polisi Cynllunio
2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH
Ffôn: 01443 281129