Gall y gweithdrefnau gwrychoedd tal, a gafodd eu cyflwyno gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, ddod i rym pan fydd y canlynol yn berthnasol:
- Mae 2 neu ragor o goed neu lwyni bytholwyrdd neu rannol fythwyrdd yn bresennol
- Os ydyn nhw dros 2 fetr o daldra
- Ac yn effeithio ar eich mwynhad o'ch cartref neu ardd gan ei fod yn rhy dal
Mae modd i chi dorri canghennau neu wreiddiau sy'n dod i mewn i'ch eiddo o eiddo cymydog neu ffordd gyhoeddus.
Cewch chi dim ond torri'n ôl i ffin eich eiddo chi. Os gwnewch chi fwy na hyn, gallai’r tirfeddiannwr cyfagos fynd â chi i’r llys am ddifrodi ei eiddo.
Os ydych chi'n byw mewn ardal Gadwraeth, neu fod y coed yn y gwrych yn cael eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed (TPO), bydd angen caniatâd y Cyngor i'w torri yn ôl.
Yn y lle cyntaf, darllenwch y ddogfen: Gwrychoedd Gerddi Addas
Os yw ffin eich eiddo ar ymyl ffordd neu rodfa gyhoeddus i gerddwyr
Mae modd i awdurdod priffyrdd y Cyngor ofyn i chi dorri gwrychoedd neu goed ar eich eiddo os ydyn nhw'n achosi rhwystr i'r briffordd. Os byddwch chi'n gwrthod, mae modd iddyn nhw gynnal y gwaith gofynnol ar eich eiddo heb eich caniatâd. Efallai y codir tâl arnoch chi am hyn.
Ffiniau a waliau a rennir
Gall fod yn anodd datrys anghydfodau ynghylch union ffin rhwng 2 eiddo. Mae modd i chi gael syniad o'r ffin trwy wirio eich gweithredoedd teitl, cysylltu â Chofrestrfa Tir EM neu geisio cyngor cyfreithiol.
Rhaid i chi roi rhybudd i'ch cymydog os ydych chi am gynnal gwaith ar wal/clawdd sy'n cael ei rannu.
Gwybodaeth ddefnyddiol:
Mae ein Hadran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yn delio â chwynion ynghylch gwrychoedd uchel ar dir preifat.
Mae modd cysylltu â nhw trwy ffonio'n canolfan gwasanaethau i gwsmeriaid rhwng 9am a 5pm ar 01443 425 001 neu drwy e-bostio CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Sylwch: Er mwyn caniatáu i'r Cyngor symud ymlaen ag unrhyw geisiadau, mae'n rhaid llenwi rhai meini prawf a ffurflenni a rhaid eich bod wedi ceisio datrys y sefyllfa cyn cyflwyno'ch cwyn.
Dolenni eraill:
Os yw eich cwyn yn ymwneud â gwrych tal edrychwch ar ein gwybodaeth isod.
- 1. Gwrychoedd Gerddi Addas
- 2. Gwrychoedd Tal - cwyno i`r Cyngor
- 3. Gwrychoedd Tal - apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor