Bydd leinio eich cadi bach ar gyfer gwastraff bwyd yn helpu i'w gadw'n lân ac yn rhydd rhag arogl drwg. Argymhellir eich bod chi'n leinio eich cadi gyda hen bapur newydd neu bapur cegin cyn rhoi eich bag gwastraff ynddo. Mae hyn yn helpu i amsugno'r lleithder a helpu eich bagiau rhag hollti. Mae hyn gan fod lleithder a hylifau'n gwneud i'r bagiau bydru'n gyflymach.
Rhaid i chi leinio eich cadi gyda deunydd y mae modd iddo gael ei gompostio.
Mae modd i chi ddefnyddio papur newydd
Mae modd i bapur newydd gael ei gompostio ac mae'n fioddiraddadwy, felly mae ei ddefnyddio yn eich cadi'n ffordd dda o ailddefnyddio gwastraff. Mae modd iddo gael ei osod yn eich bag ailgylchu gwastraff bwyd/cadi awyr agored pan fyddwch chi'n gwagio cynnwys eich cadi bach.
Mae modd i chi ddefnyddio papur cegin
Mae modd i bapur cegin gael ei gompostio ac mae'n fioddiraddadwy. Unwaith rydych chi'n gwagio eich cadi cegin, mae modd i chi ei roi yn eich bag ailgylchu gwastraff bwyd/cadi awyr agored.
PEIDIWCHâ defnyddio papur glas nac unrhyw ddefnydd arall i leinio eich cadi gan y byddai hyn yn halogi eich gwastraff bwyd.
Ble mae modd i mi gael bagiau gwastraff bwyd?
Mae'r Cyngor yn darparu bagiau ar gyfer eich cadi gwastraff bwyd yn rhad ac am ddim, ac mae modd casglu'r rhain o nifer o fannau casglu yn Rhondda Cynon Taf
Mae bagiau gwastraff bwyd y Cyngor yn 100% compostadwy ac wedi'u hardystio’n BS EN 13432:2000.
Dysgwch ragor am eich cadis
Mae bagiau gwastraff bwyd wedi'u gwneud o ddeunydd startsh corn ac felly fyddan nhw ddim yn para mor hir â bagiau plastig. Yn naturiol, byddan nhw'n dechrau pydru (gwanhau) yr hiraf y cânt eu storio. Oherwydd hyn, peidiwch â storio gormod o fagiau yn eich cartref. Bydd bagiau gwastraff sydd wedi’u storio am amser hir yn fwy tebygol o fod yn fregus ac felly’n fwy tebygol o hollti a thorri, yn enwedig os cânt eu gorlenwi. Mae mannau casglu'n derbyn cyflenwadau parhaus o'n bagiau bioddiraddadwy gwell a chryfach. Dylech chi ddefnyddio'r bagiau newydd yma lle bo modd.
Bagiau gwastraff bwyd newydd a gwell
Bagiau gwastraff bwyd ar gyfer y cadi awyr agored mawr
Mae'r Cyngor wedi gwella cryfder y bagiau ailgylchu gwastraff bwyd, gan eu gwneud nhw'n llai tebygol o hollti a thorri. Felly, rhoddwyd gorau i gynhyrchu'n bagiau bwyd mawr yng ngwanwyn 2023. Bydd yr un bag ar gyfer gwastraff bwyd yn gwneud ailgylchu bwyd yn haws, a bydd yn helpu'r Cyngor i arbed tua £500,000 y flwyddyn. Mae'r bagiau bwyd newydd a gwell yn dal i fod yn rhad ac am ddim ac mae modd eu casglu nhw o fannau casglu lleol.
Rhaid i drigolion sicrhau eu bod nhw'n defnyddio
bagiau sy'n 100% compostadwy, sydd fel arfer wedi'u gwneud o startsh corn, startsh tatws neu bapur, wedi'i ardystio’n BS EN 13432:2000. Mae rhai bagiau plastig yn cael eu gwerthu fel rhai bioddiraddadwy, ond nid yw hyn yn golygu y byddan nhw'n dadelfennu'n ddigon cyflym yn ystod y broses ailgylchu, ac felly byddan nhw'n halogi'r gwastraff bwyd. Felly, defnyddiwch fagiau sydd â'r logos cywir yn unig.
Does DIM MODD i fagiau ailgylchu CLIR cael eu compostio ac felly does DIM MODD eu defnyddio nhw i leinio eich cadi gwastraff bwyd.