Nodwch eich lleoliad isod i ddod o hyd i'ch dyddiadau casglu deunydd ailgylchu a gwastraff.
Dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae'n bosib y bydd cyfnodau o dywydd garw neu gyfnodau lle bydd rhaid cau gwasanaethau'n annisgwyl. Efallai hefyd y bydd eich diwrnod casglu gwastraff yn newid. Am ragor o fanylion, ewch i dudalen Tywydd Garw - Y diweddaraf am wasanaethau'r Cyngor. Does dim newidiadau i ddiwrnodau casglu gwastraff yn dilyn Gwyliau Banc eraill.
Pa mor aml y bydd eich deunydd ailgylchu a gwastraff yn cael eu casglu?
- Deunydd y mae modd ei ailgylchu (hynny yw, gwastraff bwyd, deunydd ailgylchu sych, cewynnau a gwastraff gwyrdd) - Pob wythnos
- Bagiau du - 3 wythnos
- gwastraff cyffredinol (18 Mawrth i 1 Tachwedd 2024) - Cofrestru am gasgliadau gwastraff gwyrdd
Rhoi'ch deunydd ailgylchu neu wastraff allan i'w casglu
Amser
Rhowch eich eitemau y mae modd eu hailgylchu neu'ch gwastraff allan rhwng 7pm y noson gynt a 7am ar fore'ch diwrnod casglu arferol.
Lleoedd
Rhowch eich eitemau y mae modd eu hailgylchu neu'ch gwastraff allan yn eich mannau casglu gwastraff. Peidiwch â rhwystro unrhyw lwybrau neu fannau mynediad sydd â chyrbiau isel.