Skip to main content
Alert Symbol
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd MELYN ar gyfer glawr rhwng 10amd a hanner nos dydd Mercher 17 Rhagfyr a 10am a 7pm dydd Iau 18 Rhagfyr. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2025

Cyn gwyliau'r banc, gwyliau tymhorol, neu os bydd tywydd garw, fe wnawn ein gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma, gan gynnwys y sefyllfa o ran gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael, a'r ffyrdd a'r ysgolion sydd ar gau.

I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a hoffwch ni ar Facebook

Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2025

Cyn gwyliau banc, gwyliau tymhorol, neu os bydd tywydd garw, fe wnawn ein gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma, gan gynnwys y sefyllfa o ran gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael, a'r ffyrdd a'r ysgolion sydd ar gau.

I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar X a hoffwch ni ar Facebook 

Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2025

Bydd y Cyngor, gan gynnwys y Ganolfan Alwadau i Gwsmeriaid, AR GAU o ddydd Mercher 24 Rhagfyr tan 9am ddydd Gwener 2 Ionawr 2026 – mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth heblaw am argyfyngau tu allan i oriau'r swyddfa a rhai gwasanaethau hanfodol.

Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau isod, trowch i'r tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'u horiau agor dros gyfnod y Nadolig. 

Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma, ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan y bydd swyddfeydd yn ailagor am 9am ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.

Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng 

Gwastraff ac Ailgylchu

Mae'n bosibl y bydd eich casgliadau Ailgylchu a Gwastraff YN NEWID dros y Nadolig. Gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu arferol/newydd. Mae hyn yn berthnasol i BOB casgliad ailgylchu, gan gynnwys cewynnau, bwyd a bagiau ailgylchu CLIR.

Mae modd dod o hyd i fanylion LLAWN ar y tudalennau yma

Bydd y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf (gan gynnwys coed Nadolig go iawn sydd heb eu trefnu i gael eu casglu) yn cael ei ohirio o ddydd Iau 25 Rhagfyr.  Bydd Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf sydd wedi’u trefnu yn ailddechrau ddydd Llun, 12 Ionawr 2026. Bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu yn y gymuned leol drwy gydol cyfnod yr ŵyl.

Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 22 Rhagfyr 2025 

  • Bydd casgliadau yn digwydd yn ôl yr arfer ddydd Llun 22 Rhagfyr, dydd Mawrth, 23 Rhagfyr a dydd Mercher 24 Rhagfyr.

Bydd casgliadau dydd Iau 25 Rhagfyr yn digwydd ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr a bydd pob casgliad wedi hynny am weddill yr wythnos yn cael ei gynnal 2 ddiwrnod yn ddiweddarach – dydd Iau i ddydd Sadwrn, dydd Gwener i ddydd Sul.   

Dylai gwastraff bagiau du a deunydd i’w ailgylchu (gan gynnwys gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu rhoi yn y man casglu arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.

Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 29 Rhagfyr 2025  

  • Bydd casgliadau yn digwydd yn ôl yr arfer ddydd Llun 29 Rhagfyr, dydd Mawrth 30 Rhagfyr a dydd Mercher 31 Rhagfyr.

Bydd casgliadau yn digwydd 1 diwrnod yn ddiweddarach o Ddydd Calan (dydd Iau) – felly bydd casgliadau dydd Iau yn digwydd ddydd Gwener, ac ati. Mae hyn yn berthnasol i’ch HOLL gasgliadau sydd wedi’u hamserlennu - ailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du - o ddydd Iau 1 Ionawr (wythnos y Flwyddyn Newydd) – Fydd DIM CASGLIADAU ar Ddydd Calan.

Dylech chi roi’r holl wastraff a deunydd i’w ailgylchu (gan gynnwys gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man casglu arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.

Os nad yw eich gwastraff / eitemau i’w hailgylchu wedi cael eu casglu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau wrth ymyl y ffordd. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Bydd ein gweithwyr yn gweithio gyda'r nos ar adegau prysur.

Mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan a byddan nhw’n ailagor ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig rhwng 29 Rhagfyr a 30 Ionawr 2026. Mae modd i drigolion drefnu amser i ni gasglu'u coeden yn ystod y cyfnod yma ar-lein nawr.

Mae gwybodaeth fanylach ar gael ar dudalennau ailgylchu adeg y Nadolig ar y wefan yma.

Ewch i'r tudalennu ailgylchu am wybodaeth gyffredinol am ailgylchu, gan gynnwys dod o hyd i'ch diwrnod casglu a chanllawiau clir am yr hyn mae modd ei ailgylchu.

Gofal Cymdeithasol

Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o'r Garfan Gofal Cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig, defnyddiwch y rhifau ffôn canlynol:

  • Materion Gofal Cymdeithasol Brys tu allan i oriau'r swyddfa, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a chyfnod y Nadolig: 01443 743665.

I'r rheiny sydd angen cysylltu â'u darparwr gwasanaeth uniongyrchol dros gyfnod y Nadolig, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt y maen nhw wedi'u darparu.

Prydau yn y Gymuned (Pryd ar Glud)

Bydd y garfan Prydau yn y Gymuned yn cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth dros gyfnod y Nadolig ac mae'r fwydlen wedi'i darparu er mwyn archebu ymlaen llaw lle bo angen. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.  

Digartrefedd

Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd y wefan yma.

Nodwch, bydd y Gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gau o 4pm ar 23 Rhagfyr 2025 a bydd y swyddfa yn ailagor am 9am ddydd Gwener, 2 Ionawr 2026.

Bydd gwasanaeth brys y tu allan i oriau’r swyddfa ar gael trwy ffonio 01443 425011, fodd bynnag, dim ond argyfyngau, pan hysbysir nad oes gan rywun lety ar gael iddyn nhw, fydd yn cael eu trin trwy'r gwasanaeth tu allan i oriau yma.

Bydd yr holl ymholiadau tai a digartrefedd eraill yn cael sylw pan fydd y swyddfa yn ailagor ar 2 Ionawr 2026. 

Y Swyddfa Gofrestru

Bydd y swyddfa gyffredinol AR GAU yn ystod cyfnod y Nadolig, o ddydd Llun 22 Rhagfyr tan 2Ionawr 2026 ar gyfer cyflwyno ceisiadau/cyhoeddi tystysgrifau.  

Y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi tystysgrifau fydd dydd Gwener, 19 Rhagfyr.

Os yw'r swyddfa ar gau ac mae gyda chi ymholiad brys, ffoniwch y gwasanaeth tu allan i oriau’r swyddfa ar 01443 425011.

Bydd y Swyddfa Gofrestru, Prif Adeiladau'r Cyngor, Pontypridd ar agor fel a ganlyn dros gyfnod y Nadolig: 

Dydd Llun 22 Rhagfyr  

AR GAU

Dydd Mawrth 23 Rhagfyr  

AR GAU

Dydd Mercher 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

AR GAU 

Dydd Iau 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Gwener 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan)

AR GAU

Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Sul 28 Rhagfyr

AR GAU

Dydd Llun 29 Rhagfyr 

AR AGOR

Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 

AR AGOR

Dydd Mercher 31 Rhagfyr (Nos Galan)

AR GAU 

Dydd Iau 1 Ionawr 2026

AR GAU 

Dydd Gwener 2 Ionawr 2026

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaethau

Bydd y brif swyddfa (Glyn-taf) yn dilyn y drefn yma dros gyfnod y Nadolig: 

Dydd Mawrth 23 Rhagfyr  

AR AGOR - gwasanaethau claddu llawn tan 1.30pm yn unig

Dydd Mercher 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

AR AGOR - claddedigaeth olaf am 1pm

Dydd Iau 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Gwener 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan)

AR GAU

Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Sul 28 Rhagfyr

AR GAU

Dydd Llun 29 Rhagfyr 

AR AGOR - 10am  – 2pm

Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 

AR AGOR - 10am  – 2pm

Dydd Mercher 31 Rhagfyr (Nos Galan)

AR AGOR - 10am  – 2pm

Dydd Iau 1 Ionawr 2026

AR GAU

Dydd Gwener 2 Ionawr 2026

Dim gwasanaethau claddu na gwasanaethau claddu gweddillion amlosgedig  

Bydd gwasanaethau claddu llawn ar gael ar 23 Rhagfyr tan 1.30pm - Rhaid derbyn yr holl waith papur perthnasol erbyn 3pm ddydd Gwener, 12 Rhagfyr ar yr hwyraf.

Fydd dim modd cynnal gwasanaethau claddu llawn na chladdu gweddillion amlosgedig ar ddyfnder llawn yn ein mynwentydd o ddydd Gwener 26 Rhagfyr hyd at ddydd Llun 5 Ionawr 2026.

Dylid cyflwyno dogfennau wedi'u cwblhau ar gyfer gwasanaethau claddu wedi'u hamserlennu ar gyfer 5 Ionawr erbyn 3pm ar 22 Rhagfyr 2025 ar yr hwyraf.

Bydd ein gwasanaethau yn ailddechrau yn llawn ar 5 Ionawr 2026.  

Ar hyn o bryd, does dim newidiadau ar gyfer tiroedd mynwentydd dros gyfnod y Nadolig.

Bydd tiroedd mynwentydd ar agor bob dydd rhwng 9am a 4pm, hyd yn oed ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. 

Ambell waith, mae amgylchiadau eithriadol yn codi pan fydd rhaid inni gau mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.  

Os bydd raid cau ffyrdd i gerbydau i mewn i fynwent, caiff hysbysiad ei osod ar gatiau'r fynwent a fydd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel, caiff gatiau'r fynwent i gerbydau eu hagor.  

Mae modd i gerddwyr ymweld â'r fynwent hyd yn oed pan fydd ffyrdd i gerbydau wedi'u cau. Er hynny, bydden ni'n argymell yn gryf i bobl fod yn ofalus pan fyddan nhw'n ymweld â'n mynwentydd pan fydd tywydd garw ac i sicrhau eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas er mwyn osgoi cwympo ac anafiadau.   

Toiledau Cyhoeddus

Bydd yr holl doiledau cyhoeddus ledled Rhondda Cynon Taf yn gweithredu'r oriau canlynol dros yr ŵyl:

Dydd Mawrth 23 Rhagfyr  

AR AGOR 

Dydd Mercher 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

Ar AGOR tan 3pm

Dydd Iau 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Gwener 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan)

AR GAU

Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Sul 28 Rhagfyr   

AR GAU

Dydd Llun 29 Rhagfyr  

AR AGOR

Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 

AR AGOR

Dydd Mercher 31 Rhagfyr (Nos Galan)

Ar AGOR tan 3pm

Dydd Iau 1 Ionawr 2026

AR GAU

Dydd Gwener 2 Ionawr 2026

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Mae modd bwrw golwg ar fanylion llawn a lleoliadau'r cyfleusterau yma - Toiledau Cyhoeddus

Canolfannau Hamdden

Ewch i'r wefan Hamdden neu ddilyn @RCTLeisureService ar Facebook i gael manylion am oriau agor eich canolfan leol. Oriau Agor Cyfnod y Nadolig

Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

  • Mae Teithiau Dan Ddaear yr Aur Du ar gau ar hyn o bryd a byddan nhw'n ailddechrau ar 12 Ionawr 2026.
  • Caffè Bracchi - Noswyl Nadolig - Ar agor tan 3pm
  • Bydd Caffè Bracchi ar gau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a bydd yn ailagor ar 5 Ionawr 2026.

Lido Cenedlaethol Cymru – Lido Ponty

Ewch i wefan Lido Ponty neu dilynwch @LidoPonty ar X a Facebook am fanylion gweithgareddau ac oriau agor.

Llyfrgelloedd

Bydd llyfrgelloedd ar gau o ddydd Mercher 24 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.

Manylion am Wasanaethau'r Llyfrgelloedd

Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg

Bydd Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg ar gau o ddydd Gwener 19 Rhagfyr tan ddydd Gwener 2 Ionawr 2026 a bydd gweithgareddau yn dechrau'r wythnos ganlynol.

Gwasanaeth Cyngor IBobUn

Bydd swyddfeydd IBobUn ar gau o ddydd Mercher 24 Rhagfyr a byddan nhw’n ailagor ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.

Parc Gwledig Cwm Dâr

Dyma oriau gweithredu Parc Gwledig Cwm Dâr dros gyfnod y Nadolig:

Bydd y parc ar agor bob dydd ond bydd y Ganolfan i Ymwelwyr ar gau rhwng 24 Rhagfyr a 2 Ionawr.

  • Caffi Cwtsh - bwriwch olwg ar dudalen Facebook Caffi Cwtsh i gael y newyddion diweddaraf. 

Theatrau

Ewch i wefan Theatrau RhCT  a dilyn @ColiseumTheatreAberdare @ParkandDare ar Facebook am fanylion.

Cau Ysgolion a Chludiant Ysgol

Mae pob ysgol AR GAU o ddydd Gwener 19 Rhagfyr (yn amodol ar ddiwrnodau HMS wedi'u trefnu) oherwydd gwyliau'r Nadolig.

  • Bydd ysgolion yn ailagor ddydd Llun 5 Ionawr (yn amodol ar unrhyw ddiwrnodau HMS wedi'u trefnu ar ôl gwyliau'r Nadolig).

Defnyddiwch y dolenni isod i fwrw golwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion sy wedi'u cau, dyddiadau tymhorau'r ysgolion a chludiant ysgol.

Cau Ffyrdd

Dyma'r tudalennau ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd sydd ar gau -

Meysydd Parcio

Mae modd parcio ym meysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor yn Aberdâr a Phontypridd yn rhad ac AM DDIM ar ôl 10am bob dydd ym mis Rhagfyr, yn rhan o fenter parcio dros yr ŵyl y Cyngor.  

Cofiwch fod meysydd parcio'r Llyfrgell, y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai arhosiad byr a chewch chi ddim parcio am fwy na phedair awr yno. Dyma atgoffa'r rheiny sy'n parcio cyn 10am fod angen iddyn nhw arddangos tocyn tan 10am yn unig. 

Unwaith eto, fydd dim rhaid talu i barcio ym meysydd parcio'r Cyngor yn y ddwy dref ar ôl 10am bob dydd drwy gydol mis Rhagfyr – o 1 tan 31 Rhagfyr. Bwriad y cynnig yw annog trigolion i wneud cymaint o’u siopa Nadolig yn lleol â phosibl, gan roi hwb i’n masnachwyr gwych yng nghanol y dref yr adeg yma o’r flwyddyn. 

Nodwch fod y meysydd parcio hynny sydd ar glo y tu allan i oriau codi tâl arferol, e.e. maes parcio aml-lawr Stryd y Santes Catrin ym Mhontypridd, ar gau bob dydd Sul ac ar Wyliau Banc.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd Cynllun Uchafswm o £1.50 am Docyn Bws Unffordd ar gyfer pob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf ar gael drwy gydol mis Rhagfyr 2025 - gan ddarparu teithio rhatach dros gyfnod yr ŵyl.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am newidiadau i wasanaethau yn ystod cyfnod y Nadolig ac yn ystod tywydd garw.

Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng:

Dyma atgoffa trigolion fod modd iddyn nhw gysylltu â'r Cyngor os bydd argyfwng drwy ffonio 01443 425011, dros gyfnod y Nadolig y tu allan i oriau swyddfa neu os bydd tywydd garw, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.