Skip to main content

Gwastraff y cartref a gwastraff ailgylchu heb eu casglu

Bagiau du

Os doedd y bagiau du ddim yn y man casglu erbyn 7am neu os oeddech chi wedi rhoi gormod o fagiau du allan i'w casglu, yna gwnaethon ni adael eich gwastraff yno'n fwriadol. Fydd dim modd i ni ddychwelyd tan y casgliad nesaf yn ôl yr amserlen.

Gwastraff Bwyd

Os ydych chi wedi defnyddio bag ailgylchu CLIR yn eich bin/cadi gwastraff bwyd, fyddwn ni DDIM yn ei gasglu gan y bydd yn llygru deunydd ailgylchu arall.  Tynnwch y bag CLIR allan o'r bin/cadi a'i roi allan i'w gasglu ar eich diwrnod casglu nesaf.  Dydy hyn DDIM yn achos o wastraff heb ei gasglu.

Os doedd y cadi ddim yn y man casglu erbyn 7am, neu os oedd eich gwastraff bwyd wedi'i lygru, yna gwnaethon ni adael eich gwastraff yno'n fwriadol. 

Ailgylchu

Os doedd y bagiau ailgylchu ddim yn y man casglu erbyn 7am neu os oedd y bag ailgylchu wedi'i lygru/yn cynnwys eitemau does dim modd eu hailgylchu, yna gwnaethon ni adael eich gwastraff yno'n fwriadol. 

Os oedd y gwastraff ailgylchu wedi'i lygru, tynnwch y gwastraff o'r man casglu a'i ddidoli mewn bag ailgylchu priodol. Does dim modd i ni ddychwelyd i gasglu'ch bagiau wedi'u hail-ddidoli tan y casgliad nesaf yn ôl yr amserlen.

Os doedd dim rheswm i beidio â chasglu eich ailgylchu a gwastraff, a does neb yn dod i'w gasglu o fewn 24 awr, yna mae modd rhoi gwybod i ni am eich casgliad yma

Tudalennau Perthnasol