Pam mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn codi tâl am fin olwynion newydd?
Cytunodd yr aelodau etholedig i ddechrau codi tâl am finiau olwynion 120 litr newydd, yn rhan o gynigion cyllideb 2015/16. Mae hyn yn ymateb i'r lefel uwch o alw am finiau olwynion, y mae eu costau cysylltiedig yn uwch nag unrhyw gynhwysydd gwastraff arall sy'n cael ei ddarparu gan y Cyngor.
Bydd hyn yn annog trigolion i edrych ar ôl eu biniau olwynion a'u symud o'r stryd ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu bob pythefnos.
Faint yw bin olwynion newydd?
O 1af Ebrill 2015, pris bin olwynion 120 litr fydd £30.10.
Beth mae'r yn ei gynnwys?
Tâl gwasanaeth yw e, sy'n talu am y gwaith gweinyddu a dod â'r bin olwynion atoch chi.
Ga i archebu bin olwynion 240 litr?
Na chewch. Maint safonol bin ar olwynion y Cyngor yma yw 120 litr. Os ydych chi'n cael trafferth gyda bin 120 litr, e-bostiwch ni (Ailgylchu@rhondda-cynon-taf.gov.uk) i drafod y mater
Sut rydw i'n talu am y bin olwynion?
Fe gewch chi dalu ar yr un pryd ag archebu'r bin olwynion newydd.
Ga i dalu mewn rhandaliadau?
Na. Bydd rhaid i chi dalu'r swm yn llawn wrth archebu'r bin.
Fydd y bin olwynion yn perthyn i mi wedyn?
Na. Bydd y bin yn parhau'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf.
A alla r archebu bin olwynion arall os oes gen I un eisoes?
Byddwn ond yn cyflenwi ac yn casglu un bin ar olwynion fesul cartref. Os gwelwn fod bin litr 240 eisoes ar y safle ar ôl ei ddosbarthu, byddwn yn cael gwared ar y bin 240 litr ac yn gadael y bin safonol 120 litr yn ôl y Gorchymyn. Os Nodwn fod bin 120 litr eisoes ar y safle ar ôl ei gyflenwi a'i fod mewn cyflwr da, ni fyddwn yn danfon ail bin.
Mae fy min olwynion wedi mynd i gefn cerbyd sbwriel; oes angen i fi dalu am un newydd?
Os yw'ch bin chi wedi mynd i gefn y cerbyd sbwriel, fe fyddwn ni wedi cofnodi hyn a rhoi nodyn trwy'ch drws chi. Gall bin newydd gael ei ddarparu am ddim, gan ddibynnu ar ganlyniadau ymchwilio pellach. Ffôn: 01443 425001.
Mae'r staff casglu wedi difrodi fy min olwynion - fydd rhaid i mi dalu am un newydd?
Os ni sydd wedi difrodi eich bin, fe fyddwn ni wedi cofnodi hyn a rhoi nodyn trwy'ch drws. Byddwn ni'n dod â bin newydd atoch chi yn rhad ac am ddim. Ffoniwch 01443 425001
Mae fy min olwynion wedi mynd ar goll neu wedi cael ei losgi/ei ddwyn. Fydd rhaid i mi dalu am un newydd?
Bydden ni'n eich cynghori i edrych yn eich man casglu i ddechrau, a sicrhau nad yw'ch cymydog wedi mynd â'ch un chi trwy gamgymeriad. Os nad yw'ch bin olwynion yn dod i'r golwg, bydd rhaid i chi dalu am un newydd.
Sut galla i rwystro fy min olwynion rhag cael ei ddwyn?
Rhowch rif/enw eich tŷ yn glir ar y bin olwynion. Gallech chi wneud hyn gyda phaent neu sticeri. Peidiwch â rhoi eich bin allan yn rhy gynnar a chasglwch ef cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu.
Pam dylwn i dalu os yw fy min olwynion yn cael ei ddwyn?
Mae'r bin olwynion yn cael ei ddarparu gan y Cyngor, a'ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau ei fod e'n cael ei storio'n ddiogel.
Ga i wneud hawliad yswiriant tŷ os caiff fy min ei ddwyn?
Does dim modd i ni roi cyngor ar hyn. Bydden ni'n eich argymell i gysylltu â'ch darparwr yswiriant.
Pryd bydd y biniau olwynion yn cyrraedd?
Byddwn ni'n rhoi dyddiad i chi pan fyddwch chi'n archebu.
Fydda i'n cael derbynneb ar ôl talu?
Byddwch chi'n cael derbynneb ar ôl talu ar-lein, ynghyd â chadarnhad e-bost os ydych chi wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i chi.
Fyddai'n gorfod llofnodi i dderbyn y bin olwynion?
Byddwch - mae'n bosibl iawn y bydd angen i chi lofnodi. Os nad yw'r cwsmer ar gael ar y dyddiad penodol, bydd modd iddo enwebu cymydog i lofnodi ar ei ran, neu adael trefniadau amgen.
Serch hynny, os nad yw'r cwsmer adref a heb adael trefniadau amgen, all yr Awdurdod ddim bod yn gyfrifol os yw'r bin yn mynd ar goll. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bosibl bydd rhaid i chi brynu bin arall.
Beth ddylwn i ei wneud gyda fy ngwastraff yn y cyfamser?
Bydd modd i chi ddefnyddio hyd at 2 fag du, yn unol â'r polisi. Peidiwch â thipio'n anghyfreithlon. Byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal ac mae’n debygol y byddech chi’n cael eich erlyn.
Oes rhaid defnyddio bin olwynion?
Does dim rhaid i drigolion yn ardaloedd Cwm Taf a Chwm Cynon ddefnyddio bin olwynion ar gyfer eu gwastraff cyffredinol. Cewch chi roi hyd at 2 bag du allan i gael eu casglu, yn lle hynny. Cyfeiriwch at ein polisi gwastraff bagiau du.
Ga i gasglu fy min olwynion fy hunan?
Na. Byddwn ni'n dod â bin atoch chi gan nad oes cyfleusterau gweinyddu/storio yn y canolfannau lleol.
Ga i ddefnyddio biniau olwynion sydd heb gael eu darparu gan y Cyngor?
Dim ond y gwastraff o finiau sydd wedi cael eu darparu gan y Cyngor byddwn i'n ei gasglu. Fydd biniau sydd ddim wedi cael eu darparu gan y Cyngor ddim yn gydnaws â'n lifftiau bin mecanyddol a gall hyn achosi peryglon o ran iechyd a diogelwch i'r staff ac i'r cyhoedd.
Ga i ddefnyddio bin olwynion y Cyngor ar gyfer storio yn unig?
Cewch - os yw'ch gwastraff yn cael ei roi mewn bagiau, ac mae'r bagiau yn cael eu rhoi allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu arferol.
Rwy'n byw yng Nghwm Rhondda. Ga i fin olwynion erbyn hyn?
Na - all trigolion Cwm Rhondda ddim archebu biniau olwynion gan y Cyngor.
Ga i brynu mwy nag un bin?
Na - byddwn ni dim ond yn cyflenwi un bin, ac yn casglu'r gwastraff o un bin fesul cartref.
Rwy'n byw mewn bloc o fflatiau; fydd rhaid i mi dalu am fin?
Rydyn ni'n eich argymell chi i wirio trefniadau gwaredu eich bloc o fflatiau. Mae gan nifer o fflatiau eu mannau casglu gwastraff cymunedol eu hunain. Fyddwn ni ddim yn cyflenwi biniau olwynion ychwanegol i fannau cymunedol.
Os nad oes mannau cymunedol, fe gewch chi archebu bin olwynion newydd a bydd rhaid i chi dalu amdano.
Pam nad yw treth y Cyngor yn talu am gost y bin olwynion?
Mae cyfran fach o dreth y Cyngor (tua £1.30 yr wythnos) yn cael ei wario ar gasglu a gwaredu'ch sbwriel, ond dydy hyn ddim yn cynnwys y cynhwysydd ei hunan. Mae casglu gwastraff yn cael ei lywodraethu gan adrannau 45 a 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Rwy wedi/ar fin symud tŷ; fydd rhaid i mi dalu am fin olwynion newydd?
Ein cyngor ni yw gadael eich bin olwynion yn eich hen gyfeiriad, a cheisio cynnwys bin olwynion yn eich cytundeb gwerthu/rhentu cyn symud i mewn. Os nad oes bin olwynion yno, bydd rhaid i chi dalu.
Rwy wedi adeiladu fy eiddo fy hunan - fydd rhaid i mi dalu am fin olwynion?
Bydd.
Rwy wedi symud i dŷ newydd sydd wedi'i brynu gan y datblygwr - oes rhaid i mi dalu am fin olwynion?
Cysylltwch â'ch datblygwr. Mae'n bosibl bod bin olwynion wedi'i gynnwys yn y pris. Os nad oes bin olwynion wedi'i gynnwys yn y pris, bydd rhaid i chi dalu.
Oes rhaid talu am finiau ailgylchu?
Nac oes - does dim rhaid i chi dalu am finiau ailgylchu bwyd na bagiau ailgylchu cewynnau. Rydyn ni'n eich annog chi i ailgylchu cymaint o ddeunydd ag sy'n bosibl.
Rwy wedi talu am fin olwynion newydd, ond mae'r hen fin wedi dod i'r golwg. Oes modd i mi gael ad-daliad?
Nac oes. Does dim modd i chi gael eich arian yn ôl gan fod y gost yn talu am y gwaith gweinyddu a dod â'r bin i'ch cartref, yn hytrach nag am y bin olwynion ei hunan.
Rwy wedi archebu bin ond wedi newid fy meddwl, oes modd i mi gael ad-daliad?
Nac oes. Does dim modd i chi gael eich arian yn ôl gan fod y gost yn talu am y gwaith gweinyddu a dod â'r bin i'ch cartref, yn hytrach nag am y bin olwynion ei hunan.
Fyddwch chi'n mynd â'r hen fin olwynion pan ddewch chi â'r un newydd, hyd yn oed os yw e wedi torri?
Byddan. Bydd angen i chi roi'r hen fin allan yn barod i ni'i gasglu.
Prynais i fin olwynion yn ddiweddar ond mae e wedi torri. Fydd rhaid i mi dalu am un newydd?
Rydyn ni'n disgwyl i finiau olwynion bara am amser hir - yn arbennig oherwydd bod y Cyngor yn casglu'r math yma o wastraff bob pythefnos erbyn hyn. Serch hynny, byddwn ni'n ymdrin â phob achos yn ôl ei rinweddau ei hun ac yn gwneud yr asesiadau priodol.