Mae casgliadau gwastraff anymataliaeth yn wasanaeth bob wythnos RHAD AC AM DDIM i drigolion Rhondda Cynon Taf. Rhaid i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma.
Sut mae'n gweithio
Mae angen i chi gofrestru eich cyfeiriad i ddechrau manteisio ar gasgliadau.
Mae bagiau gwastraff anymataliaeth porffor am ddim ac yn cael eu danfon i'ch cyfeiriad. Mae bagiau porffor yn eich galluogi chi i gael gwared ar eich gwastraff anymataliaeth yn hylan ac yn eich helpu i reoli eich lwfans bagiau du.
O fewn pythefnos o gofrestru, byddwn ni'n e-bostio eich diwrnod casglu atoch chi ac yn danfon eich bagiau porffor. Mae casgliadau’n digwydd o’ch man casglu bob wythnos.
Mae modd i chi gofrestru am hyd at 3 blynedd ac mae modd i chi ymestyn eich casgliadau os oes angen.
I roi gwastraff anymataliaeth allan i'w gasglu:
- Cofrestrwch ar gyfer casgliadau
- Gwiriwch eich diwrnod casglu gwastraff anymataliaeth ar ôl cofrestru gan y gallai fod yn wahanol i'ch diwrnod casglu biniau arferol.
- Rhowch badiau anymataliaeth a weips gwlyb wedi'u defnyddio yn unig yn eich bag porffor.
- Peidiwch â defnyddio bagiau ailgylchu du, bagiau ailgylchu clir nac unrhyw fagiau eraill nad ydyn nhw wedi'u darparu gennym ni.
- Peidiwch â gorlenwi'ch bag.
- Clymwch eich bag yn dynn.
- Rhowch gynifer o fagiau porffor ag sydd eu hangen arnoch chi bob diwrnod casglu.
- Rhowch eich bag yn eich man casglu arferol erbyn 7am.
Os na chaiff eich bagiau porffor eu rhoi allan am 4 wythnos yn olynol, byddwn ni'n cymryd yn ganiataol nad oes angen y gwasanaeth arnoch chi mwyach a byddwn ni'n canslo eich casgliadau
Cofrestru ar gyfer casgliadau
Pan fydd gyda chi wastraff anymataliaeth i'w gasglu, cofrestrwch eich cyfeiriad i dderbyn casgliadau. Byddwn ni'n e-bostio eich diwrnod casglu atoch chi ac yn danfon eich bagiau porffor o fewn pythefnos.
Mae modd i chi gofrestru am hyd at 3 blynedd ac mae modd i chi ymestyn eich casgliadau os oes angen.
Gallai gwneud cais yn gynnar olygu y byddwn ni'n cymryd yn ganiataol nad oes angen y gwasanaeth arnoch chi mwyach ac yn canslo eich casgliadau os na chaiff eich bagiau porffor eu rhoi allan am 4 wythnos yn olynol.
Cofrestru ar gyfer manteisio ar Gasgliadau Gwastraff Anymataliaeth
Yr hyn gewch chi ei roi yn eich bagiau a'r hyn does dim modd i chi ei roi yn eich bagiau
Le
- Padiau gwlychu ac ati
- Weips
Na
- Dillad - Glân neu fudr
- Padiau mislif
- Rhwymynnau a gorchuddion
- Gwastraff Bag Stoma, Cathetr neu Golostomi
Archebu mwy o fagiau
Ar ôl i chi gofrestru, mae modd i chi archebu mwy o fagiau porffor i'w danfon i'ch cartref cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Archebu mwy o fagiau porffor
Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu
Os ydych chi wedi cofrestru a bod eich bagiau porffor heb eu casglu cyn pen 24 awr ar ôl y diwrnod sydd wedi'i drefnu ar eich cyfer, mae modd i chi roi gwybod am wastraff heb ei gasglu ar-lein.
Rhoi gwybod am wastraff heb ei gasglu
Ymestyn eich casgliadau
Byddwch chi wedi'ch cofrestru am hyd at 3 blynedd.
Os oes angen mwy o amser arnoch chi, mae modd i chi ymestyn eich casgliadau trwy gofrestru eto.
Ymestyn eich Casgliadau Gwastraff Anymataliaeth
Newid eich cyfeiriad
Rhowch wybod i ni o leiaf wythnos cyn i chi symud, gan y gallai eich diwrnod casglu newid.
Newid eich cyfeiriad gwastraff anymataliaeth
Canslo eich casgliadau
Mae modd i chi ganslo eich casgliadau gwastraff anymataliaeth os nad oes eu hangen arnoch chi mwyach.
Canslo eich casgliadau gwastraff anymataliaeth