Skip to main content

Gwastraff heb ei gasglu

Os nad yw eich gwastraff cartref wedi'i gasglu, mae modd rhoi gwybod am gasgliad sydd heb ddigwydd y diwrnod canlynol.

Rydyn ni'n rhoi sticer ar unrhyw fagiau nad ydyn ni'n eu casglu.

Efallai na fydd eich bagiau cael eu casglu os:

  • Doedden nhw ddim yn eich man casglu erbyn 7am ar eich diwrnod casglu
  • Aethoch chi dros eich lwfans bagiau du (3 bag)
  • Roedden nhw'n rhy drwm
  • Roedd yr eitemau anghywir yn eich bagiau

Bwriwch olwg ar ein rhestr lawn o sticeri a'r hyn sydd angen i chi ei wneud.

Sut i storio eich bagiau neu waredu eich ailgylchu

Storiwch eich bagiau oddi ar ochr y ffordd tan eich diwrnod casglu nesaf.

Gwiriwch eich Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned lleol i ddarganfod pa eitemau y mae modd i chi fynd â nhw yno.

Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu

Efallai y bydd ein criwiau'n rhedeg yn hwyr ac efallai na fyddan nhw'n casglu eich bagiau tan yn ddiweddarach yn y dydd.

Os nad yw eich bagiau wedi cael eu casglu, mae modd i chi roi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu.

Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu