Skip to main content

Rhandiroedd - Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd

Caiff gwastraff gwyrdd mae modd ei ailgylchu, sy'n cynnwys gwastraff o'r ardd a gwastraff anifeiliaid anwes llysieuol ei gasglu BOB WYTHNOS o ganol mis Mawrth hyd at ddechrau mis Tachwedd.

Rhwng mis Tachwedd a chanol mis Mawrth, byddwn ni'n defnyddio system archebu i gasglu gwastraff gwyrdd.  Bydd gofyn i Fannau Addoli, Eglwyso a Rhandiroedd drefnu casgliad gwastraff gwyrdd yn ystod y Gaeaf drwy gysylltu a ni ailgylchuagwastraffbydmasnach@rctcbc.gov.uk

Bydd gwastraff gwyrdd mewn sachau gwastraff gwyrdd dim ond yn cael ei gasglu o randiroedd cofrestredig sy'n cael eu rhedeg gan gymdeithas.

Beth fydd angen i mi ei wneud?

Bydd angen i randiroedd  sy'n dymuno manteisio ar y gwasanaeth casgliadau gwyrdd gofrestru amdano.

O fewn pythefnos i gofrestru byddwch chi'n derbyn dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ynghyd ag unrhyw sachau ychwanegol rydych chi wedi'u prynu. 

Mae modd prynu sachau ychwanegol sy'n costio £3 yr un ar adeg cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, neu ar ôl hynny.

Prynu Sachau Gwastraff Gwyrdd Ar-Lein

  • 1 Green Waste Sack = 2.5 clear recycling bagsFfôn:  - 01443 425001

A wyddoch chi?: Mae pob sach werdd yn dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm). Mae hynny'n cyfateb i ddau fag ailgylchu clir a hanner.

Yn ôl i'r brigj

Pryd bydd fy ngwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu?

 

Yn ôl i'r brig

Sut i ailgylchu'ch gwastraff gwyrdd

Rhowch y gwastraff gwyrdd yn y sach gwastraff gwyrdd.  Ar eich diwrnod casglu, rhowch eich sach gwastraff gwyrdd wrth eich man casglu biniau arferol cyn 7am.

  • Rydyn ni eisiau tynnu eich sylw at y canlynol:

  • Dydych chi ddim yn cael rhoi gwastraff gwyrdd mewn bagiau ailgylchu clir a rhaid ichi ymuno â'r cynllun cyn bod modd i ni ddechrau casglu.
  • Os yw'ch sach/sachau heb eu casglu mae'n bosibl nad ydych chi wedi cael eich cofrestru a bydd angen i chi gofrestru ar y cynllun.
  • Peidiwch â gorlenwi'ch sach/sachau gwastraff gwyrdd. Os oes angen, prynwch sachau ychwanegol.
  • DIM OND gwastraff gwyrdd mae modd i chi ei roi yn eich sachau gwastraff gwyrdd – os oes unrhyw wastraff arall yn eich sachau gwastraff gwyrdd fel pridd, rwbel a phren, fyddan nhw ddim yn cael eu casglu.
  • Os fyddwch chi ddim yn rhoi unrhyw wastraff gwyrdd allan dros gyfnod o 12 casgliad yn olynol, mae'n bosib y cewch eich tynnu oddi ar y rownd gasglu a bydd angen i chi gofrestru eto. Mae hyn yn cyfeirio at gasgliadau ac nid wythnosau; mae casgliadau'n digwydd bob pythefnos yn y gaeaf a bydd egwyl dros gyfnod y Nadolig.
  • Peidiwch â defnyddio sachau mae cymdogion neu ffrindiau wedi'u rhoi i chi – fyddan nhw ddim yn cael eu casglu. Byddwn ni ond yn casglu o randiroedd sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y cynllun.
  • Sicrhewch fod eich sachau gwastraff gwyrdd wedi'u rhoi allan i'w casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu ac ewch â'ch sachau gwastraff gwyrdd yn ôl i mewn ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu.

Yn ôl i'r brig

Beth fydda i’n cael ei roi yn y sachau gwastraff gwyrdd?

Cael gwybod beth fydda i’n cael ei roi yn y sachau gwastraff gwyrdd.

Yn ôl i'r brig

Angen rhagor o sachau?

Mae modd i randiroedd sydd wedi cofrestru brynu rhagor o sachau gwastraff gwyrdd ar-lein.

archebu rhagor o sachau gfwastraff gwyrdd

 

Yn ôl i'r brig

Rhoi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn

Mae modd i randiroedd roi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn trwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein

 

Gadael y cynllun casgliadau gwastraff gwyrdd

Mae modd i randiroedd dynnu'u henw oddi ar y rhestr ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd drwy lenwi'n ffurflen ar-lein.  Bydd ein gweithwyr yna'n cymryd eich sachau i ffwrdd ar eich diwrnod casglu gwastraff gwyrdd nesaf.  

Sylwch fod dim modd eich ad-dalu ar gyfer sachau ychwanegol a gafodd eu harchebu.

Yn ôl i'r brig

Gwastraff heb ei gasglu

O fis Tachwedd 2021, mae'n ofynnol i bob rhandir sydd angen gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd gofrestru ei fanylion.  Fydd gwastraff gwyrdd ddim yn cael ei gasglu o randiroedd sydd heb gofrestru.  Mae modd i chi gofrestru ar-lein neu ffoniwch ni ar 01443 425001.

Os ydych chi wedi cofrestru ac wedi gwirio'ch diwrnod casglu, a bod eich sachau gwastraff gwyrdd heb eu casglu cyn pen 24 awr ar ôl y diwrnod sydd wedi'i drefnu ar eich cyfer, mae modd i chi roi gwybod am hynny ar-lein 

Yn ôl i'r brig