Caiff preswylwyr bellach drefnu Casgliadau Eitemau Mawr - £20.00 am hyd at 3 eitem
Gwybodaeth ynghylch casgliadau
- Nodwch: dim ond eitemau sydd ar y rhestr fydd yn cael eu casglu. Bydd unrhyw eitemau ychwanegol yn cael eu gadael wrth ymyl y ffordd a FYDDAN NHW DDIM yn cael eu casglu
- Mae angen gosod POB eitem yn eich man casglu biniau (y tu allan i'ch tŷ/eiddo ac nid y tu ôl i unrhyw gatiau) erbyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad (bydd y dyddiad yma'n cael ei gadarnhau)
Os ydych chi'n gwsmer gwastraff byd masnach, yn ysgol neu'n landlord, ewch i'n tudalen Gwastraff Mawr Byd Masnach.