Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn falch o rannu ei raglen dysgu proffesiynol gyda chi ar gyfer y flwyddyn yma.
Wrth i ni symud ymlaen i'r ail flwyddyn o weithredu'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET), bydd ysgolion yn effro iawn i'r angen i barhau i ddatblygu arferion er mwyn diwallu anghenion plant sy'n profi rhwystrau i ddysgu. Hefyd, rhaid sicrhau bod holl staff yr ysgol yn wybodus ac yn meddu ar sgiliau i ddarparu cyfleoedd dysgu ag addysgu cyffredinol cynhwysol o'r radd flaenaf.
Byddwn ni'n parhau â'n cymorth i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol trwy waith fforwm a gwaith clwstwr rheolaidd. Rydyn ni hefyd wedi addasu'n llwybrau gwasanaeth i sicrhau bod modd i'r gweithlu gael mynediad at gymorth ac arweiniad mewn modd amserol. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y rhaglen ddysgu sydd wedi'i hamlinellu isod yn darparu cyfleoedd i weithlu ehangach yr ysgol. Trwy wrando ar adborth gan ysgolion a chyfranogwyr, rydyn ni’n gwybod faint rydych yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd sy'n cael ei gynnig trwy ein hamrywiaeth o ddulliau dysgu. Byddwn yn parhau i adolygu ein cynnig i addasu a datblygu ein hopsiynau cyflawni.
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi, gan gynnwys cyrsiau sydd wedi'u trefnu'n ganolog a chyrsiau ar ffurf dewislen. Mae modd gwneud cais i'r rhain gael eu cyflwyno'n rhan o sesiwn hwyrnos, neu ddiwrnod HMS yn yr ysgol. Rydyn ni'n hapus i ddarparu hyfforddiant i holl staff yr ysgol, i lywodraethwyr neu i rieni.
Os daw cyllid grant gan sefydliadau allanol i law er mwyn sicrhau dysgu proffesiynol ychwanegol, byddwn ni'n rhannu'r manylion unwaith y byddan nhw ar gael. Os nad oes unrhyw un o'r sesiynau hyfforddi yn bodloni'ch anghenion, cysylltwch â Ryan Phillips. Bydd modd iddo roi cyngor i chi ynglŷn ag opsiynau dysgu proffesiynol eraill sydd ar gael drwy'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant.
Sylwch, er mwyn sicrhau lle ar unrhyw un o'r cyrsiau sydd ar gael, mae rhaid defnyddio'r ffurflen cadw lle ar-lein, ar wefan RhCT.
Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant ar gael ar 01443 744333