Skip to main content

Cyngor a Gwybodaeth - Newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd

Newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd

Rhaid gwneud unrhyw gais i newid ysgolion yn ystod y flwyddyn ysgol drwy gysylltu â'ch ysgol bresennol neu'r Garfan Materion Derbyn Disgyblion.

Cysylltwch â Phennaeth yr ysgol y mae'ch plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd er mwyn trafod unrhyw faterion. Os byddwch chi eisiau parhau â'r trefniadau trosglwyddo, cysylltwch â'r Garfan Materion Derbyn Disgyblion am gyngor. Ffoniwch 01443 281111 neu e-bostio'r Garfan Derbyn Disgyblion am gyngor.

Wrth ystyried eich cais am drosglwyddo, bydd yr awdurdod yn adolygu nifer y lleoedd sydd ar gael yn y grŵp blwyddyn sy'n berthnasol i'ch plentyn/plant.

Gwybodaeth Bwysig

Ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11 yr ysgol uwchradd, rhaid siarad â phennaeth ysgol y mae'r plentyn yn mynd iddi ar hyn o bryd. Bydd y Pennaeth yn rhoi ffurflen 'bwriad i drosglwyddo ysgol' i ddechrau'r broses drosglwyddo. Dim ond ysgol bresennol eich plentyn fydd yn gallu darparu'r ffurflen 'Bwriad i drosglwyddo ysgol', sy rhaid eu cwblhau ar y cyd rhwng rhieni/cynhalwyr a'r ysgol. Os nad symud tŷ neu leoliad gofal maeth ydy'r rheswm dros y cais trosglwyddo, bydd rhieni/cynhalwyr yn cael gwahoddiad i gyfarfod lle bydd cynrychiolwyr o'r ddwy ysgol (yr ysgol bresennol a'r ysgol sydd wedi'i nodi yn y cais trosglwyddo) a Swyddog yr Awdurdod Lleol yn bresennol i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.

Dylai rhieni/cynhalwyr gofio, fodd bynnag, bod dewisiadau o ran y cwricwlwm a meysydd llafur y byrddau arholi yn amrywio o ysgol i ysgol. Efallai, felly, na fydd modd bodloni dewisiadau'ch plentyn mewn ysgol wahanol. Gall hyn fod yn broblem, yn arbennig i'r disgyblion hynny sydd ar fin sefyll arholiadau megis y rheini ym Mlynyddoedd 10/11, sydd ar drothwy eu harholiadau TGAU a Safon Uwch/Uwch Atodol.