Skip to main content

Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn (Symud ysgolion yn ystod y flwyddyn ysgol)

Mae newid ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol yn gam enfawr i'ch plant/plentyn. Os ydych chi'n symud cartref, efallai bydd penderfyniad o'r fath yn angenrheidiol. 

Bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol leol neu'r Garfan Materion Derbyn Plant am gyngor bryd hwnnw. 

  • Os byddwch chi’n penderfynu trosglwyddo’ch plentyn o un ysgol i un arall, cysylltwch â Phennaeth yr ysgol bresennol yn y lle cyntaf i roi gwybod am eich penderfyniad. 

    Os byddwch chi eisiau parhau â'r trefniadau trosglwyddo, cysylltwch â'r Garfan Materion Derbyn Disgyblion am gyngor wrth wneud eich cais i'r ysgol newydd.

Gwybodaeth ddefnyddiol:

Gwasanaeth Materion Derbyn Disgyblion

Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,

Tŷ Trevithick

Abercynon

Aberpennar

CF45 4UQ

Ffôn: 01443 281111