Sut mae gwneud cais
Mae'r lleoedd yma'n cael eu darparu ar sail y nifer sydd ar gael, a does dim ffordd o warantu lle mewn unrhyw ysgol. Unwaith ei bod y lleoedd meithrin yn llawn, chaiff dim rhagor o blant o oed cyn-feithrin eu derbyn.
Rhaid i rieni/cynhalwyr gwblhau ffurflen cais am le cyn-feithrin.
- Ewch i https://oneonline.rctcbc.gov.uk
- Ymgofrestrwch gyda chyfeiriad e-bost dilys.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd i'w gweld ar-lein.
Os nad oes cyfrifiadur gyda chi, cewch ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim yn un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Neu, cewch lenwi ffurflen gais bapur drwy gysylltu â'r garfan Materion Derbyn Disgyblion ar 01443 281111.
Edrychwch hefyd ar y 'canllawiau ar gyfer ffurflenni derbyn disgyblion'.
Mewn achosion lle y daw mwy o geisiadau i law na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn unol â meini prawf sydd wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â gormod o alw.
Mae gan bob plentyn hawl i le addysg feithrin ran-amser am ddim, gan ddechrau o’r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed. Mae modd cael y manylion yma ar dudalen 46 o'n Llyfryn Dechrau'r Ysgol neu fel arall, ffoniwch ein gwifren Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am ddim ar 0800 180 4151 (neu 0300 ar gyfer ffonau symudol) 111 4151 am ragor o fanylion. Mae modd i rieni wneud cais am le cyn-feithrin yma:https://oneonline.rctcbc.gov.uk
Fyddwn ni ddim yn ariannu darpariaeth sydd ddim yn rhan o awdurdod lleol y tu allan i'r fwrdeistref sirol. Mae dyddiadau ariannu darpariaeth sydd ddim yn dod o dan yr awdurdod lleol yn gyson â dyddiadau derbyn i ysgolion.
Darparwyr addysg sy'n cael eu harolygu gan Estyn i ddarparu addysg cyn-feithrin yw darparwyr addysg nas cynhelir (Darparwyr Addysg Cofrestredig).
Bydd llefydd cyn-feithrin a meithrin ddim ond ar gael yn y lle cyntaf i rieni/warcheidwaid sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ac sy'n talu Treth y Cyngor i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bydd cyfleoedd i'r rheiny sy'n byw y tu allan i Rondda Cynon Taf wneud cais am lefydd cyn-feithrin a meithrin ond bydd hyn yn ddibynnol ar ba lefydd sydd ar gael.
Dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais
Efallai bydd y dyddiadau isod yn newid o bryd i'w gilydd.
Cohort Derbyn
|
Oedran Disgyblion
|
Dosbarthu ffurflenni o
|
Anfon ffurflenni yn ôl erbyn
|
Anfon llythyron nodi penderfyniad
|
Derbyn
Cyn-feithrin o fis Ionawr 2025
ymlaen
|
3ydd pen-blwydd yn cwympo rhwng:
1 Medi 2024 a 31 Rhagfyr 2024
|
2 Medi 2024
|
27 Medi 2024
|
8 Tachwedd 2024
|
Derbyn Cyn-feithrin o fis Ebrill 2025 ymlaen
|
3ydd pen-blwydd yn cwympo rhwng:
1 Ionawr 2025 a 31 Mawrth 2025
|
1 Ionawr 2025
|
7 Chwefror 2025
|
14 Mawrth 2025
|
Nodwch – fydd dim modd derbyn plant cyn-feithrin i unrhyw ysgol ar ôl y dydd Gwener sy'n dilyn gwyliau hanner tymor mis Mai.
Gwybodaeth Bwysig
Dydy'r ffaith bod eich plentyn wedi cael ei dderbyn i ddosbarth Cyn-feithrin mewn ysgol ddim yn gwarantu bod eich plentyn yn cael aros yn yr ysgol honno. Er bydd pob ymdrech i dderbyn y disgyblion yma, bydd raid cyflwyno cais ffurfiol am gael trosglwyddo i ddosbarth Meithrin o'r ddarpariaeth Cyn-feithrin. O bryd i’w gilydd, efallai bydd sefyllfaoedd yn codi pan fydd hi ddim yn bosibl trosglwyddo disgyblion oherwydd bo