Beth ydw i angen ei wneud?
|
Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 01/09/2023 a 31/12/2023
|
Mae angen i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer Ionawr 2027 a lle mewn Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2027.
|
|
Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 01/01/2024 a 31/03/2024
|
Mae angen i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer mis Ebrill 2027 a lle mewn Dosbarth Meithrin ar gyfer mis Medi 2027.
|
|
Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 01/04/2024 a 31/08/2024
|
Dim ond am le mewn Dosbarth Meithrin ar gyfer mis Medi 2027 y mae angen i chi wneud cais.
|
Lleoedd ym mis Ionawr 2027 ar gyfer disgyblion â dyddiadau geni rhwng 01/09/2023 a 31/12/2023
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar lein rhwng 1 Medi 2026 a 25 Medi 2026.
- Byddwch chi'n derbyn canlyniad eich cais ar 6 Tachwedd 2026.
Lleoedd ym mis Ebrill 2027 ar gyfer disgyblion â dyddiadau geni rhwng 01/01/2024 a 31/03/2024
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 4 Ionawr 2027 a 5 Chwefror 2027.
- Byddwch chi'n derbyn canlyniad eich cais ar 12 Mawrth 2027.
Cyflwyno cais
Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml.
* Byddwch yn ymwybodol pan fyddwch yn dechrau pre nursery ar lein, bydd angen I chi cwbwlhau mewn un ymgais a paid dod allan or system.
Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud cais ar-lein.
Mae'r lleoedd yma'n cael eu darparu ar sail y nifer sydd ar gael, a does dim ffordd o sicrhau lle mewn unrhyw ysgol. Unwaith ei bod hi'n dybiedig bod y lleoedd meithrin yn llawn, chaiff dim rhagor o blant o oed cyn-feithrin eu derbyn.
Nodwch: Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau. Os nad oes gyda chi fynediad i'r cyfrifiadur/gliniadur eich hun, mae modd i chi ddefnyddio un am ddim yn un o'n Llyfrgelloedd.
Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos. Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Gwybodaeth ddefnyddiol: