Skip to main content

Derbyn Disgyblion – Canllawiau i Rieni/Cynhalwyr

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi llenwi pob adran o’r ffurflen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi nodi dyddiad geni eich plentyn yn gywir, a'i fod rhwng y dyddiadau sydd wedi'u nodi ar frig y ffurflen.
  • Darparwch dystiolaeth ddogfennol o brawf o'ch cyfeiriad – mae'r dogfennau sy'n cael eu derbyn yn cynnwys eich datganiad Treth y Cyngor, bil cyfleustodau diweddar, neu'ch llythyr Budd-dal Plant. Rhaid darparu dogfen wreiddiol, nid llungopi. Bydd dogfennau'n cael eu dychwelyd os ydych chi'n gofyn i ni wneud hynny. Mae'n bosibl y bydd manylion yn cael eu gwirio drwy ddefnyddio gwybodaeth o gronfeydd data eraill y Cyngor, os oes angen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi nodi eich ysgolion dewisol yn nhrefn eich dewis.
  • Os ydych chi am ofyn am le mewn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir, neu Ysgol Eglwysig (Catholig Rufeinig neu'r Eglwys yng Nghymru), mae modd i chi wneud cais o fis Medi 2026 drwy Borth Dinasyddion y Cyngor am le mewn Dosbarth Derbyn ac mewn Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7) ar gyfer mis Medi 2027.
  • Mae Plant o dan Orchymyn Gofal yn golygu plant sydd naill ai yng ngofal yr Awdurdod Lleol, neu mewn gofal maeth.
  • Os bydd nifer y ceisiadau y bydd yr ysgol yn eu derbyn yn uwch na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd eisiau bodloni'r meini prawf canlynol (yn ôl trefn blaenoriaeth):

1.    Plant sy’n derbyn gofal cyhoeddus (plant sy’n derbyn gofal)

2.    Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol a fydd â brawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol honno pan fyddan nhw'n dechrau'r ysgol

3.    Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol ond sydd heb frawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno

4.    Plant sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol, a fydd â brawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol honno pan fyddan nhw'n dechrau'r ysgol

5.    Plant sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol heb frawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno

Mae manylion ynglŷn â’r broses dod i benderfyniad yn achos ceisiadau sy’n gyfartal, h.y. sefyllfa ‘tie break’, ar gael yn y llyfryn ‘Dechrau’r Ysgol’. 

Bydd plant yn cael eu hystyried yn frodyr neu'n chwiorydd os ydyn nhw'n:

a)     hanner brodyr neu chwiorydd, neu'n frodyr neu chwiorydd llawn

b)     brodyr neu chwiorydd wedi'u mabwysiadu neu wedi'u maethu

c)     plant sy’n byw yn rhan o’r un teulu’n barhaol e.e. llys frawd/chwaer

O ran derbyn disgyblion, dydy cefndryd, neiaint neu nithoedd ddim yn cael eu hystyried yn frodyr/chwiorydd.

Mewn perthynas ag ysgolion uwchradd, rhaid i frodyr neu chwiorydd fod ym Ml. 7 - 11 yr ysgol berthnasol ym mis Medi 2027. Fydd brodyr neu chwiorydd sydd mewn chweched dosbarth ysgol gyfun ym mis Medi 2027 ddim yn cael eu hystyried ar gyfer derbyn plant ifancach.

Mae ffurflenni cais ar gyfer mynediad i grwpiau blwyddyn perthnasol, ar gyfer trosglwyddo i ysgol (neu ysgol arall) yn RhCT ar gael o bob ysgol, neu o'r Swyddfa Derbyn Disgyblion, yn y cyfeiriad sy wedi'i nodi isod. Dylech chi gysylltu â'r ysgol sydd orau gyda chi yn y lle cyntaf cyn llenwi unrhyw ffurflen gais.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau i'r ysgol o’ch dewis cyntaf, neu'r ysgol gynradd y mae eich plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd, a RHAID eu derbyn erbyn y dyddiad cau sydd wedi'i nodi ar gefn y ffurflen.

I ddarllen y polisi cyfan, a rhagor o wybodaeth am faterion Derbyn Disgyblion gan gynnwys y meini prawf ar gyfer dyrannu lle i ddisgybl lle bydd gormod o geisiadau am le, mynnwch gopi o lyfryn ‘Dechrau’r Ysgol’. Mae copïau ar gael ym mhob ysgol RhCT ac ar-lein ar y wefan: www.rctcbc.gov.uk

Os oes cwestiynau gyda chi, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, mae modd i chi gysylltu ag aelod o staff yn y Swyddfa Derbyn Disgyblion, Canolfan Menter y Cymoedd, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN, rhif ffôn 01443 281111.