1. Oes angen talu am ddarpariaeth brecwast gynradd?
Nid oes angen talu; caiff brecwast ei ddarparu'n rhad ac am ddim. Er mwyn gallu mynychu clwb brecwast, rhaid cyflwyno cais llwyddiannus.
2. Oes rhaid gwneud cais ar gyfer pob plentyn fydd yn mynychu clwb brecwast?
Oes. Rhaid gwneud cais ar gyfer pob plentyn cyn iddyn nhw fynychu clwb brecwast.
Dim ond 1 cais sydd ei angen ar gyfer pob aelwyd hyd yn oed os yw eich plant yn mynychu ysgolion gwahanol (mae'r ffurflen yn caniatáu i chi nodi ysgol pob plentyn).
I gwblhau cais, ewch i: Clybiau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd
3. Does gen i ddim yr adnoddau i lenwi ffurflen gais ar-lein. Sut gallaf i wneud cais am le?
Dylai staff gweinyddol eich ysgol fod ar gael i’ch cefnogi, ond yn eu habsenoldeb, ffoniwch garfan Cymorth Addysg ar 01443 281141.
4. Sut mae'r broses ymgeisio'n gweithio?
Rhaid gwneud y cais ar-lein. I lenwi ffurflen gais, ewch i: Clybiau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd. Os bydd y cais yn llwyddiannus, caiff lle ei ddyrannu a chaiff e-bost awtomataidd ei anfon i'ch mewnflwch i nodi hyn. Bydd yr e-bost yn cynnwys gwybodaeth am yr ysgol a ddewiswyd ac enw(au) y plentyn/plant sydd wedi cael lle. Os nad oes lle ar gael ar hyn o bryd, byddwch chi’n cael gwybod, a rhoddir y plentyn/plant ar y rhestr aros ddigidol. Pan ddaw lle ar gael, byddwch chi’n derbyn e-bost fydd yn nodi bod y plentyn/plant wedi'u hychwanegu at gofrestr y clwb brecwast ac mae modd iddyn nhw nawr fynychu'r clwb brecwast.
5. Mae’n rhan o’r ffordd drwy’r tymor, ac mae newid mewn amgylchiadau personol bellach yn golygu bod angen i mi ddefnyddio clwb brecwast. A oes modd i mi wneud cais o hyd?
Oes, mae modd i chi wneud cais o hyd. Darllenwch ateb i gwestiwn 4 am ragor o wybodaeth.
6. Beth os oes gan fy mhlentyn ofyniad dietegol wedi’i ragnodi gan feddyg?
Gwneir pob ymdrech i gefnogi disgyblion sydd â gofynion dietegol wedi’u rhagnodi gan feddyg, ond does dim modd darparu brecwast nes bod y dystiolaeth feddygol briodol wedi’i chyflwyno a bwydlen bwrpasol yn cael ei chreu ar gyfer y disgybl (sylwer, mae'n bosibl bydd hyn yn cymryd hyd at 21 diwrnod i’w threfnu, neu hirach os yw'r deiet yn gymhleth).
Os oes angen deiet wedi’i ragnodi gan feddyg ar eich plentyn, a dydy'r trefniadau angenrheidiol ddim ar waith gyda’r Gwasanaethau Arlwyo, rydyn ni’n eich annog chi i wneud cais am hwn nawr yn: https://www.rctcbc.gov.uk/DietRhagnodiMeddygol
Does dim rhaid i chi aros nes bydd y broses ymgeisio ar gyfer lle mewn clwb brecwast yn agor. Bydd gwneud cais nawr am y deiet wedi’i ragnodi gan feddyg yn helpu i leihau oedi wrth ddarparu'r gwasanaeth.
7. Rydw i wedi gwneud cais am ddeiet wedi’i ragnodi gan feddyg, ond dydy'r cais ddim wedi'i awdurdodi eto, a dydw i ddim wedi cael gwybod ei fod wedi'i roi ar waith. A oes modd i fy mhlentyn fynychu sesiynau clwb brecwast?
Oes, mae modd i'ch plentyn fynychu clwb brecwast. Serch hynny, does dim modd i ni fwydo’ch plentyn nes bod y trefniadau angenrheidiol ar waith. Rhowch frecwast i'ch plentyn gartref cyn i chi ddod ag ef/hi i'r sesiwn/sesiynau clwb brecwast.
8. Faint o'r gloch mae'r clwb brecwast yn dechrau ac yn gorffen?
Gwiriwch yr wybodaeth yma'n uniongyrchol gyda'r ysgol.
9. Pam nad oes modd i bob plentyn sy'n mynychu'r ysgol gofrestru’n awtomatig ar gyfer lle mewn clwb brecwast am ddim?
Caiff sawl ffactor ei ystyried ar gyfer cynllunio a threfnu clwb brecwast am ddim yn ddiogel.
Caiff clwb brecwast am ddim ei gynnal cyn y diwrnod ysgol felly cynhelir asesiad risg pwrpasol i bennu nifer y disgyblion (ar gyfer plant sy’n hŷn ac yn iau na 5 oed), y mae modd eu bwydo a’u goruchwylio’n ddiogel yn ystod y cyfnod yma yn y lle sydd ar gael.
10. A yw’r broses gwneud cais am le mewn clwb brecwast am ddim wedi cau?
Nac ydy, nid yw'r broses gwneud cais am le mewn clwb brecwast am ddim wedi cau. Bydd y broses gwneud cais ar-lein yn parhau i fod ar agor.
11. Os nad oes lleoedd ar gael nawr, sut y bydd hyn yn newid yn y dyfodol?
Mae gan bob ysgol ddangosfwrdd i fonitro presenoldeb y rhai sydd wedi’u cofrestru, a byddwn ni’n cysylltu â’r rhai nad ydyn nhw’n mynychu’n rheolaidd i ofyn a oes angen y lle arnyn nhw bellach, neu a oes modd ei ryddhau i rywun ar y rhestr aros. Mae’n bwysig nodi y cysylltir hefyd â theuluoedd plant nad ydyn nhw’n bwyta brecwast am ddim yn y ddarpariaeth, gan fod y ddarpariaeth wedi’i sefydlu gyda’r bwriad clir o ddarparu brecwast am ddim i’r disgyblion sydd ei angen. Os bydd y galw yn parhau i fod yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd yr ysgol a'r Gwasanaethau Arlwyo yn cydweithio i ddarparu lleoedd ychwanegol.
12. Fe wnes i gwblhau a chyflwyno’r ffurflen gais i gofrestru fy mhlentyn/plant ar gyfer clwb brecwast am ddim, ond dydw i ddim wedi derbyn unrhyw e-bost, pam?
Mae’n bosibl eich bod chi wedi anghofio ticio blwch sy’n gofyn i chi gytuno i’ch data gael ei ddefnyddio. Rhaid ticio'r blwch yma neu mae'r cais yn parhau i fod yn anghyflawn, a fydd lle ddim yn cael ei ddyrannu. Os ydych chi'n siŵr eich bod chi wedi cwblhau'r broses ymgeisio, efallai fod yr e-bost wedi'i hidlo'n awtomatig i ffolderi SPAM neu JUNK, neu heb ei anfon oherwydd gwall yn y cyfeiriad e-bost a gafodd ei ddarparu. Gwiriwch y ffolderi yma.
13. Rydw i’n dal yn ansicr os ydw i wedi llwyddo i gofrestru fy mhlentyn/plant ar gyfer y clwb brecwast am ddim. Sut y mae modd i mi wirio'r wybodaeth yma?
Mae gan bob ysgol fynediad at wybodaeth fyw am bob cofrestriad llwyddiannus ar gyfer ei chlwb brecwast am ddim. Gofynnwch i'ch ysgol wirio dangosfwrdd data ei chlwb brecwast am ddim.
14. Cofrestrais fy mhlentyn/plant oed meithrin, ond mae'r ysgol wedi dweud nad oes modd iddi dderbyn plant y dosbarth meithrin yn y clwb brecwast am ddim ar hyn o bryd. Beth yw'r rheswm dros hyn?
Mae angen goruchwyliaeth ychwanegol ar blant oed meithrin yn ystod clwb brecwast am ddim; os yw’r ysgol wedi dweud nad yw’n derbyn y plant iau yma ar hyn o bryd, bydd y penderfyniad wedi’i seilio ar ei hasesiad risg a lefelau staffio i fodloni gofynion cyfreithiol.
15. Mae fy mhlant yn defnyddio clwb brecwast am ddim fel bod modd i mi fynd i'r gwaith, ond nid oes lle ar gael.
Rydyn ni’n cydnabod y bydd llawer o rieni/gwarcheidwaid yn elwa ar ddod â’u plant i’r safle cyn dechrau’r diwrnod ysgol. Serch hynny, diben clwb brecwast am ddim yw darparu brecwast am ddim i blant ar ddechrau'r diwrnod ysgol.
Os nad oes angen brecwast iach am ddim ar eich plentyn cyn dechrau’r diwrnod ysgol, yna mae disgwyl i rieni/gwarcheidwaid wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain cyn dechrau’r diwrnod ysgol.
16. Cofrestrais fy mhlentyn/plant ar gyfer y clwb brecwast am ddim, oherwydd efallai y bydd angen i mi ei ddefnyddio un diwrnod yn y dyfodol, ond rwy’n sylweddoli bellach fod yna deuluoedd eraill sy’n defnyddio’r clwb yn rheolaidd ac nad ydyn nhw wedi llwyddo i sicrhau lle. Sut mae tynnu fy nghofrestriad yn ôl?
Mae modd i chi gysylltu â charfan weinyddol eich ysgol drwy e-bost (neu wyneb yn wyneb) a rhoi’r manylion sylfaenol iddi (a’r rhif archebu os yw’n bosibl), bydd wedyn yn cysylltu â’r awdurdod lleol i drefnu bod y lle’n cael ei ryddhau i’r rhai ar y rhestr aros/rhestr wrth gefn. Efallai y bydd oedi byr cyn y bydd modd rhyddhau'r lleoedd ychwanegol yma a chadarnhau lleoedd gyda rhieni/gwarcheidwaid newydd.
17. Os byddaf yn tynnu’r lle/lleoedd rydw i wedi'i gadw neu’u cadw ar gyfer fy mhlentyn/plant yn ôl, a oes modd i mi ei drosglwyddo/eu trosglwyddo’n awtomatig i fy ffrind?
Nid yw'n bosibl trosglwyddo lle. Unwaith y caiff ei ryddhau, bydd yr ysgol yn ailddyrannu lle maes o law, yn seiliedig ar y rhestr aros sydd gyda hi. Serch hynny, bydd hyn yn gofyn am rai prosesau gweinyddol a chysylltu â'r awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod cofnodion digidol yn cael eu diwygio a'u diweddaru'n briodol.
18. A oes rhestr aros y mae modd i mi roi fy mhlentyn/plant arni?
Cyn belled â'ch bod yn cwblhau’r wybodaeth yn y ffurflen gais, bydd yr wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn cael ei storio'n awtomatig ar restr aros yn barod ar gyfer pan fydd lleoedd ar gael.
19. Rydw i'n credu nad yw rhai o'r teuluoedd sydd wedi cofrestru'n llwyddiannus byth yn defnyddio'r gwasanaeth. A fydd lleoedd yn cael eu rhyddhau os nad yw pobl yn defnyddio'r clwb brecwast am ddim?
Bydd pob ysgol yn monitro presenoldeb y rhai sydd wedi cofrestru i fynychu, a byddwn ni'n cysylltu â'r rhai nad ydyn nhw'n mynychu'n rheolaidd i ofyn a oes angen y lle neu a oes modd ei ryddhau i rywun ar y rhestr aros/rhestr wrth gefn.
20. Rydw i wedi anghofio gwneud cais ar-lein ar gyfer y clwb brecwast am ddim. Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi anghofio?
Os nad yw eich plentyn/plant wedi’i gofrestru/wedi’u cofrestru ar-lein i fynychu clwb brecwast am ddim, ond mae gan yr ysgol leoedd ar gael o hyd, mae’n hanfodol eich bod chi'n eu cofrestru ar-lein cyn dod â nhw i’r clwb brecwast am ddim.
21. Rydw i wedi cael gwybod bod y clwb brecwast am ddim yn llawn. Beth os byddaf yn gollwng fy mhlentyn/plant yn y clwb brecwast?
Rydyn ni’n gofyn i chi beidio â dod â phlant i'r clwb brecwast am ddim os nad ydych chi wedi llwyddo i sicrhau lle.