Nod y clybiau brecwast am ddim yw darparu cyfle i ddisgyblion ysgolion cynradd i gael brecwast iach, am ddim yn yr ysgol bob dydd.
Mae cynnig brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn rhan hanfodol o'n gwaith ehangach i wella bwyd a maeth mewn ysgolion a sicrhau bod pob plentyn yn cael ei drin yn gyfartal.
Manteision i ddisgybl o gael pryd da amser brecwast:
- Gwella gallu'r disgybl i ganolbwyntio ynghyd a'i ymddygiad yn yr ysgol
- Cynnig amser chwarae a chymdeithasu dan oruchwyliaeth yn y bore
- Paratoi'r disgybl ar gyfer y diwrnod o'i flaen
- Gwella prydlondeb a phresenoldeb
- O fudd i rieni sydd fel arfer yn dechrau'r gwaith yn gynnar.
Mae oriau'r clybiau brecwast yn amrywio o ysgol i ysgol. A siarad yn gyffredinol, byddan nhw ar agor o 8.10 tan 9.00am.
Bydd pob plentyn yn derbyn tost neu rawnfwyd a sudd ffrwythau. Bydd hefyd yn cael amser i chwarae dan oruchwyliaeth, cyn iddo fynd i'r dosbarth.
Mae hefyd modd i ni ddarparu ar gyfer alergeddau a dietau arbennig.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Garfan Gwasanaethau Arlwyo ar 01443 281141.
Cofrestru am Glwb Brecwast Ysgol Gynradd
Bellach, does dim modd llenwi e-Ffurflen Gofrestru'r Clwb Brecwast, a hynny er mwyn caniatáu i brosesau gweinyddol gael eu cwblhau.
Os wnaethoch chi ddim llenwi e-Ffurflen yn ystod y cyfnod rhwng 25 Gorffennaf 2022 a 7 Awst 2022 (na chofrestru gyda'r ysgol cyn diwedd tymor yr haf), mae modd i chi lenwi'r ffurflen gofrestru gyda'r ysgol pan fydd y tymor newydd yn dechrau. Caniatewch amser i hyn gael ei gwblhau wrth ddod â'ch plentyn i'r Clwb am y tro cyntaf.
Rhaid cofrestru pob plentyn er mwyn iddyn nhw gael mynd i'r Clwb Brecwast.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y ddarpariaeth Clwb Brecwast, e-bostiwch gwasanaethauarlwyo@rctcbc.gov.uk. Diolch am eich cydweithrediad.