Mae Gwasanaethau Arlwyo RhCT yn darparu bwydlen flasus a maethlon i holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf.
Bwydlenni
RHIFAU WYTHNOSOL Y FWYDLEN MENU WEEK NUMBERS
*Oherwydd argaeledd cyflenwyr, mae'n bosibl bydd cynhyrchion yn newid.
Darpariaeth Ddeiet Arbennig – Disgyblion Ysgol Uwchradd
Mae arlwyo mewn ysgolion uwchradd yn gweithredu ar raddfa lawer mwy nac ysgolion cynradd, ac mae'r arlwy bwyd yn llawer ehangach. Dydy hi ddim yn ymarferol gweithredu'r un weithdrefn mewn perthynas â deiet arbennig a oedd yn cael ei weithredu yn yr ysgol gynradd.
Efallai bydd disgyblion angen cyngor ar ba eitemau bwyd sy'n addas i'w bwyta a dylen nhw drafod eu hanghenion deiet gyda'r staff Arlwyo sy'n gallu gwirio pecynnau a matricsau alergenau (ar gyfer prydau cyfansawdd). Gall staff hefyd ddarparu cyngor neu gyfyngiadau ar arferion trin bwyd am fod hyn yn gallu effeithio ar addasrwydd y cynnyrch.
Mae modd trafod achosion cymhleth sydd efallai angen mesurau rheoli ychwanegol gyda'r Swyddog Cymorth Arlwyo.
Nodwch: Rydyn ni'n prynu bwyd sydd heb ddatgan cnau fel cynhwysyn. Serch hynny, hyd yn oed gyda mesurau rheoli croeshalogi rhagweithiol, mae nifer o brosesau trin yn y gadwyn gyflenwi yn cyflwyno'r posibilrwydd y bydd olion yn parhau. Does dim modd i ni reoli'r bwydydd y mae cwsmeriaid eraill yn dod â nhw i mewn i'r safle bwyta.
Mae risg weddilliol yn parhau o ran bwyd wedi'i ddarparu gan Wasanaethau Arlwyo RhCT felly 'gall gynnwys olion cnau neu elfennau sy'n deillio o gnau'. Dylai cwsmeriaid sydd ag alergedd cnau ystyried y risg cyn prynu/bwyta unrhyw fwydydd.
Talu am eich cinio ysgol
Pryd Ysgol Uwchradd - £3.10 y dydd
Gallwch bellach dalu ar-lein am brydau ysgol eich plentyn.
Mae ein prydau'n cydymffurfio â gofynion rheoliadau Safonau a Gofynion Maeth Llywodraeth Cymru.
Pam ddylech chi ddewis prydau ysgol?
- Mae ein bwydlenni yn faethlon cytbwys ac o dan reolaeth
- Mae'n arbed amser i rieni/gwarcheidwaid
- Mae gan bob aelod o staff gymhwyster 'Hylendid Bwyd Sylfaenol', fan lleiaf
Contact us - cateringservices@rctcbc.gov.uk