Mae'r prosiect yma wedi darparu adeilad ysgol newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer staff a disgyblion yn Llantrisant, gan ddisodli’r adeiladau hŷn ar y safle presennol.
Cafodd cam cyntaf y prosiect ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2024, roedd hyn yn cynnwys adeiladu adeilad deulawr newydd gyda chyfleusterau gwych. Dechreuodd disgyblion fwynhau eu cyfleusterau newydd o flwyddyn academaidd 2024/25.
Ysgol gynradd yn Llantrisant yn derbyn allweddi i'w adeilad newydd sbon (Gorffennaf 2024)
Mae'r ysgol newydd wedi'i dylunio i weithredu’n adeilad carbon sero-net ac yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth ar gyfer plant y meithrin, un ystafell ddosbarth ar gyfer plant y derbyn, tair ystafell ddosbarth i blant iau a chwe ystafell ddosbarth i blant hŷn - yn ogystal â phrif neuadd a sawl ardal ategol arall. Mae capasiti'r ysgol wedi'i gynyddu i 310 o ddisgyblion cynradd yn ogystal â 45 o leoedd meithrin.
Roedd cam dau yn canolbwyntio ar ardaloedd allanol y datblygiad yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf 2024/25 - i ddymchwel hen adeiladau'r ysgol ac agor y safle i adeiladu maes parcio newydd, dwy ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, a chyfleuster storio 40 o feiciau.
Cafodd y rhan fwyaf o'r ardaloedd awyr agored eu cwblhau ym mis Chwefror 2025, ac roedden nhw ar gael i'r ysgol eu defnyddio ar y pryd. Dim ond gwaith i gwblhau'r cae chwaraeon glaswellt oedd yn mynd rhagddo bryd hynny, oherwydd ei natur sy'n dibynnu ar y tywydd.
Ardaloedd awyr agored modern yn cwblhau buddsoddiad mewn ysgol yn Llantrisant (Chwefror 2025)
Mae'r buddsoddiad yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio cyllid o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd arian refeniw'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.