Mae ail gam datblygiad Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi wedi'i drosglwyddo i'r ysgol, gan wella ardaloedd awyr agored y safle yn sylweddol. Mae'n dilyn gwaith darparu prif adeilad newydd mae disgyblion a staff wedi bod yn ei fwynhau ers dechrau'r flwyddyn academaidd, ac yn cwblhau'r buddsoddiad sylweddol yn yr ysgol yn Llantrisant.
Mae'r ysgol yn Llantrisant yn un o dair yn Rhondda Cynon Taf i dderbyn buddsoddiad yn rhan o Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru - ffrwd cyllid refeniw'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Cafodd prosiect tebyg ei gwblhau yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn 2024 - gyda'r adeilad newydd sbon yn agor fis Ebrill y llynedd, yna ardaloedd awyr agored newydd ym mis Hydref. Bydd Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn derbyn ei hadeilad ysgol newydd yn yr wythnosau nesaf.
Cafodd y prif adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ei gwblhau yn yr haf y llynedd, mewn da bryd i ddisgyblion a staff symud i mewn ar ddechrau blwyddyn academaidd 2024/25. Mae'n cynnwys cyfleusterau ac ardaloedd o'r radd flaenaf, gydag ystafelloedd i ddau ddosbarth meithrin, un dosbarth derbyn, tri dosbarth i'r babanod a chwe dosbarth i blant yr adran iau, yn ogystal â phrif neuadd a mannau amrywiol eraill. Mae capasiti'r ysgol bellach wedi cynyddu i 310 o ddisgyblion ysgol gynradd (4-11 oed) ynghyd â 45 o ddisgyblion meithrin.
Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod y contractwr, Morgan Sindall, wedi trosglwyddo elfennau awyr agored y datblygiad (cam dau) ar 14 Chwefror.
Mae cam dau wedi cynnwys dymchwel hen adeiladau'r ysgol, agor y safle er mwyn adeiladu maes parcio newydd, dwy Ardal Gemau Amlddefnydd, cae chwaraeon gwair, a chysgodfan storio 40 beic. Mae bellach modd i'r ysgol fwynhau'r holl gyfleusterau newydd yma - ac eithrio'r cae chwaraeon gwair, a fydd yn cael ei gwblhau a'i hau pan fydd y tywydd yn well. Bydd ar gael i'w ddefnyddio yn yr hydref.
Mae'r buddsoddiad wedi'i gwblhau wedi cynnwys System Draenio Drefol Gynaliadwy, yn ogystal â gwelliannau i lwybrau mwy diogel yn lleol. Mae hyn wedi cynnwys gwella cyfleusterau i gerddwyr ar y ffyrdd ger yr ysgol, creu amgylchedd mwy diogel i deuluoedd ac annog pobl i gerdded neu feicio bob dydd.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Mae'n newyddion ardderchog bod disgyblion a staff yn yr ysgol wych yma yn Llantrisant bellach yn gallu mwynhau cyfleusterau awyr agored gwell, ynghyd ag adeilad newydd sbon yr ysgol. Mae cyfleusterau allanol modern fel y rhain yn cynnig gwell gyfleoedd chwarae a dysgu awyr agored, ac ardaloedd penodol ar gyfer chwaraeon a hamdden.
"Rydyn ni wedi derbyn cymorth gwerthfawr iawn gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu tri phrosiect y Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Cafodd buddsoddiad Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ei ddarparu'r llynedd, tra bydd gwaith adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn cael ei gwblhau'n fuan. Mae'r rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd yn ein helpu ni i ddarparu rhagor o ysgolion o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, wrth gydymffurfio â'n hymrwymiadau o ran Newid yn yr Hinsawdd trwy gyflawni Carbon Sero Net o ran gweithredu.
"Mae prosiectau'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ond yn un rhan o'n buddsoddiad mewn cyfleusterau addysg ledled y Fwrdeistref Sirol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Yn dilyn rhaglen gwerth £79.9 miliwn, agorodd ysgolion newydd yn ardaloedd Cilfynydd, Rhydfelen a'r Ddraenen-wen ym mlwyddyn academaidd 2024/25, gydag Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn ardal Glynrhedynog yn derbyn safle ysgol newydd y mis diwethaf. Rydyn ni hefyd wedi sicrhau caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer ysgol a chanolfan y gymuned newydd yn ardal Glyn-coch.
"Hoffwn i ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith yn Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi - o'n contractwr a gynhaliodd waith y prosiect, i staff, disgyblion, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Mae tarfu a newid tymor byr yn anochel wrth ddarparu cyfleusterau ysgol newydd sylweddol, ac rwy'n falch bod y prosiect yma wedi cael cyn lleied o effaith â phosibl ar addysg y disgyblion - y canlyniad yw ysgol fodern a fydd ar gael i’r gymuned am genedlaethau i ddod."
Wedi ei bostio ar 20/02/2025