Mae gwaith adeiladu prif adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi wedi'i gwblhau erbyn hyn - a bydd gwaith ar ardaloedd allanol yn dechrau'n fuan, yn barod i'r disgyblion fwynhau'r cyfleusterau arbennig o fis Medi.
Mae'r ysgol yn Llantrisant yn un o blith tair yn Rhondda Cynon Taf i gael budd o fuddsoddiad diweddaraf y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy ffrwd cyllid refeniw'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - y Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Cafodd Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref adeilad newydd yn Ebrill, tra bod buddsoddiad tebyg ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn mynd rhagddo erbyn 2025.
Cafodd y gwaith adeiladu ar adeilad deulawr newydd Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ei gwblhau ddydd Llun 15 Gorffennaf, ac ers hynny, mae'r staff wedi bod wrthi'n paratoi eu dosbarthiadau newydd ar gyfer agoriad yr adeilad ar ddechrau blwyddyn academaidd 2024/25.
Mae'r adeilad newydd yn cynnwys cyfleusterau a gofodau o'r radd flaenaf sydd wedi'u trefnu o amgylch canolbwynt a thair 'asgell'. Bydd gan yr adeilad dau ddosbarth meithrin, un dosbarth derbyn, tri dosbarth i'r babanod a chwe dosbarth i blant yr adran iau, yn ogystal â phrif neuadd a mannau amrywiol eraill. Mae capasiti'r ysgol wedi cynyddu i 310 o ddisgyblion ysgol gynradd (4-11 oed) ynghyd â 45 o ddisgyblion meithrin.
Bydd y contractwr adeiladu Morgan Sindall nawr yn canolbwyntio ar ardaloedd allanol y datblygiad. Mae'r hen adeiladau yn parhau i gael eu gwagio'r wythnos hon (gan ddechrau ar 22 Gorffennaf) cyn cael eu dymchwel. Bydd hyn yn agor y safle ar gyfer adeiladu maes parcio newydd, dwy Ardal Gemau Amlddefnydd a chae pêl-droed glaswellt. Bydd y gwaith yma'n dechrau ar ddiwedd mis Gorffennaf 2024. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys 40 o fannau storio beiciau, System Ddraenio Drefol Gynaliadwy, a gwelliannau i'r llwybrau cerdded i safle'r ysgol er mwyn annog teithio llesol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Rwy'n falch iawn bod yr adeilad newydd gwych ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi wedi'i adeiladu'n llawn yn ôl yr amserlen. Mae'r buddsoddiad diweddaraf yma ar y cyd â Llywodraeth Cymru wedi sicrhau mwy o gyfleusterau modern sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif i gymuned leol arall. Mae modd i disgyblion a staff nawr edrych ymlaen at ddychwelyd ar ôl eu gwyliau haf i amgylchedd dysgu modern o'r radd flaenaf, sy'n gwbl gynhwysol ac a fydd yn cefnogi pob maes o'r cwricwlwm.
"Bydd ein contractwr ar gyfer y datblygiad yn gweithio'n galed drwy gydol yr haf i ddymchwel hen adeiladau'r ysgol a chyflawni agweddau allanol ar y safle - gan gynnwys cae glaswellt, mannau chwarae a maes parcio. Fel pob un o'n hadeiladau newydd, bydd yr ysgol yn cyflawni carbon sero net ar waith, gan gefnogi ein nodau a'n hymrwymiadau mewn perthynas â Newid Hinsawdd.
“Rydyn ni’n parhau i dderbyn cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleusterau addysg newydd ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r rhaglen Model Buddsoddi Cydfuddiannol wedi cefnogi'r prosiect yma yn Llantrisant ynghyd ag un tebyg ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref a welodd adeilad newydd sbon arall yn agor ym mis Ebrill - ac mae trydydd cynllun ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn mynd rhagddo ar gyfer y flwyddyn nesaf.
"Rydyn ni hefyd yn dechrau ar gyfnod cyffrous iawn ar gyfer ein buddsoddiad yn y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ym Mhontypridd, i ddarparu cyfleusterau gwerth £79.6 miliwn. Agorwyd bloc chweched dosbarth newydd sbon a chyfleusterau addysg eraill yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn y Beddau yn ddiweddar, a bydd ysgolion newydd sbon yn agor yng Nghilfynydd, y Ddraenen-wen a Rhydfelen ym mis Medi 2024 - pob un yn elwa ar gyfleusterau newydd y mae modd i’w cymunedau fod yn falch ohonynt.
"Mae'r cyfleusterau newydd yn Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn edrych yn wych, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â staff a disgyblion yno yn y flwyddyn academaidd newydd."
Wedi ei bostio ar 24/07/24