Ym mis Medi 2024 cafodd disgyblion 3–16 oed eu croesawu am y tro cyntaf i'r ysgol yma sy'n cael ei ffurfio o'r newydd ar gyfer cymuned y Ddraenen Wen. Roedd y datblygiad modern yma’n un o bedwar prif brosiect ysgolion a gafodd eu cyflawni ym mlwyddyn academaidd 2024/25, â buddsoddiad o £79.9 miliwn ar gyfer Addysg ledled ardal ehangach Pontypridd.
Cafodd y datblygiad ei adeiladu ar hen safle Ysgol Gynradd y Ddraenen-wen ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen, ac mae wedi agor ei ddrysau i'r holl ddisgyblion o'r ddwy ysgol - yn ogystal â ffrwd cyfrwng Saesneg Ysgol Gynradd Heol y Celyn. Mae gyda'r ysgol pob oed newydd i ddisgyblion 3-16 oed le ar gyfer 1,260 o ddisgyblion (gan gynnwys disgyblion meithrin)..
Tair ysgol newydd sbon yn barod i agor eu drysau ledled ardal ehangach Pontypridd (Medi 2024)
Mae'r datblygiad wedi darparu adeilad addysgu newydd sbon sy'n cynnwys 28 ystafell ddosbarth ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2-4, sydd wedi'i gysylltu'n ddiogel ag adeilad presennol yr ysgol gynradd. Mae'r adeilad newydd wedi'i ddylunio'n adeilad Carbon Sero Net, ac yn ategu'r cyfleusterau allanol a gafodd eu darparu yn 2023 yn ystod cam gwaith cychwynnol. Roedd hyn yn cynnwys creu maes parcio i staff, maes parcio bysiau a man gollwng disgyblion newydd.
Mae cyfleusterau presennol wedi cael eu hadnewyddu - gan gynnwys moderneiddio ystafelloedd dosbarth, uwchraddio toiledau disgyblion, a gwella ardaloedd staff. Cafodd ardaloedd awyr agored eu gwella a chafodd canopïau dysgu awyr agored eu gosod ar gyfer yr ysgol gynradd.
Ardaloedd awyr agored, newydd, mewn ysgol yn y Ddraenen-wen yn benllanw buddsoddiad sylweddol (Mai 2025)
Cafodd cam terfynol y gwaith, yn canolbwyntio ar ardaloedd awyr agored y safle, eu cwblhau yn ystod gwyliau'r Pasg 2025. Cafodd dau hen adeilad eu dymchwel, yn ogystal â chreu ail Ardal Gemau Amlddefnydd, ystafell ddosbarth awyr agored, a maes parcio ychwanegol ar y safle, ac mae gwaith tirlunio eang ledled y safle wedi'i gwblhau. Cafodd wyneb newydd ei osod ar feysydd chwaraeon astroturf presennol yr ysgol hefyd.
Yn ogystal â hynny, cafodd cyfleuster gofal plant newydd, sy'n cynnig lleoedd Dechrau'n Deg a lleoedd y Cynnig Gofal Plant, ei agor ym mis Ionawr 2025, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae Blossom Early Years yn gyfleuster ar gyfer plant 2-5 oed. Mae'n cynnig lleoedd Dechrau'n Deg wedi'u hariannu i blant 2-3 oed, a lleoedd y Cynnig Gofal Plant wedi'u hariannu i blant oedran yr ysgol feithrin. Yn y lleoliad mae prif ystafell chwarae ac ynddi'r offer modern, cegin paratoi bwyd, ystafell hongian cotiau ar gyfer plant, toiled ac ardal newid penodol ar gyfer plant oedran yr ysgol feithrin, ac ardal chwarae awyr agored, ddiogel.
Mae cyllid sylweddol gwerth £1 miliwn wedi'i sicrhau trwy raglen Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru er mwyn adnewyddu canolfan ieuenctid ar y safle. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn 2025.
Lluniau o brif adeilad yr ysgol wedi'i gwblhau – Medi 2024
Ardaloedd awyr agored, lluniau o'r gwaith wedi'i gwblhau – Ebrill 2025