Skip to main content

Ardaloedd awyr agored, newydd, mewn ysgol yn Y Ddraenen-wen yn benllanw buddsoddiad sylweddol

Ysgol Afon Wen web

Mae'r buddsoddiad enfawr mewn cyfleusterau addysg yn Ysgol Afon Wen, Y Ddraenen-wen, nawr wedi'i gwblhau’n llawn. Yn ystod gwyliau'r Pasg, cyfnod olaf y gwaith, cafodd yr ardaloedd tu allan eu cwblhau yn y datblygiad ysgol newydd sbon yma. 

Ers mis Medi 2024, mae'r gymuned wedi elwa yn sgil amgylchedd ysgol newydd sbon, diolch i fuddsoddiad sylweddol, ar y cyd, gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Cafodd Ysgol Afon Wen, sydd ar gyfer disgyblion 3-16 oed, ei chreu o'r newydd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd yma. Cafodd ei drysau eu hagor i bob disgybl o Ysgol Uwchradd Y Ddraenen-wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen-wen, gynt, a ffrwd Saesneg Ysgol Gynradd Heol y Celyn.

Mae'r datblygiad wedi'i adeiladu ar safle Ysgol Gynradd y Ddraen-wen ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen, gynt, a chafodd ei gwblhau dros dri phrif gyfnod o waith. Yn 2023, yn ystod cyfnod un, cafodd Ardal Gemau Amlddefnydd ei adeiladu ar gyfer yr ysgol gynradd, felly hefyd prif faes parcio ac ardaloedd penodedig ar gyfer dod oddi ar y bysiau. Yn ystod cyfnod dau, cafodd bloc addysgu ac ynddo 28 ystafell ddosbarth ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2-4 ei adeiladu, cafodd rhai adeiladau ac ardaloedd addysgu oedd yno'n barod eu hadnewyddu, a chafodd nifer o'r ardaloedd addysgu yn yr awyr agored eu gwella.

Mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau bod cyfnod 3 wedi'i gwblhau yn ystod y gwyliau Pasg diweddar ym mis Ebrill 2025 – gyda'r Contractiwr Kier Construction Ltd yn cwblhau'r gwaith yn ei gyfanrwydd ac yn gadael y safle.

Ers mis Medi, y canolbwynt yn ystod cyfnod 3 oedd dymchwel dau hen floc addysgu er mwyn gwneud lle ar gyfer datblygu'r ardaloedd y tu allan. Yn ystod cyfnod tri hefyd mae ail Ardal Gemau Amlddefnydd wedi'i chreu, felly hefyd ystafell ddosbarth awyr agored, a maes parcio ychwanegol ar y safle, ac mae tirlunio eang ledled y safle wedi'i gwblhau. Cafodd y maes chwaraeon astroturf yr oedd yr ysgol yn ei ddefnyddio'n flaenorol, arwyneb newydd hefyd; cafodd hyn ei ariannu ar y cyd gan Chwaraeon Cymru a’r CyngorBydd rhagor o welliannau'n cael eu gwneud i’r ystafelloedd newid cymunedol dros yr haf yma.

Yn ogystal â hynny, cafodd cyfleuster gofal plant, newydd, sy’n cynnig lleoedd Dechrau'n Deg a lleoedd y Cynnig Gofal Plant ei agor ym mis Ionawr 2025. Mae Blossom Early Years yn gyfleuster ar gyfer plant rhwng 2-5 oed. Mae'n cynnig lleoedd Dechrau'n Deg wedi'u hariannu ar gyfer plant 2-3 oed, a lleoedd y Cynnig Gofal Plant wedi'u hariannu ar gyfer plant oedran yr ysgol feithrin. Yn y safle newydd mae prif ystafell chwarae ac ynddi offer modern, cegin paratoi bwyd, ystafell hongian cotiau ar gyfer plant, toiled ac ardal newid penodol ar gyfer plant oedran yr ysgol feithrin, ac ardal chwarae awyr agored, ddiogel.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Rwy wrth fy modd bod y buddsoddiad mawr yma yng nghyfleusterau addysg cymuned y Ddraenen-wen, nawr wedi'i gwblhau. Mae modd nawr i'r disgyblion sydd wedi dychwelyd ar ôl gwyliau'r Pasg, fwynhau'r meysydd chwaraeon a hamdden newydd, ardaloedd dysgu y tu allan, ac ardaloedd awyr agored ychwanegol – gyda'r haul yn gwenu ar wythnos gyntaf tymor yr haf!

"Mae'r prosiect wedi'i wireddu diolch i'n partneriaeth sy'n mynd rhagddi gyda Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, Llywodraeth Cymru. Roedd Ysgol Afon Wen yn un o blith sawl ysgol newydd gafodd ei hagor ym mis Medi 2024, ledled Pontypridd Ehangach – gydag Y Ddraenen-wen, Cilfynydd, Rhydfelen, a Beddau yn elwa ar y cyd yn sgil buddsoddiad o £79.9 miliwn.  Rydyn ni hefyd wedi creu adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn – pob un o'r rhain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“A fydd y buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau addysg ledled Rhondda Cynon Taf ddim yn dirwyn i ben yma. Ym mis Mawrth 2025, ystyriodd Cabinet y Cyngor hefyd, adroddiad ar gyfran nesaf y prosiectau buddsoddi mewn ysgolion – bydd y rhain yn gwneud cynnydd dros y tair mlynedd nesaf yn y Cymer, Llanhari, Dolau / Llanilid, Dyffryn Clydach, Ynys-y-bwl, Aberdâr, Pen-rhys, Aber-nant a Glyn-coch.

“Fe hoffwn i ddiolch i ddisgyblion, staff a'r gymuned ehangach am eu cydweithrediad tra bu'r buddsoddiad yn cael ei gwblhau yn y Ddraenen-wen. Cafodd y prosiect ei adeiladu mewn cyfnodau penodol er mwyn amharu cyn lleied â phosib ar fywyd ysgol bob dydd a dysgu'r disgyblion. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i gontractwr y Cyngor Kier Construction Ltd am weithio'n agos gyda swyddogion dros sawl blwyddyn, er mwyn cyflawni'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yma'n llwyddiannus; fe fydd wrth galon y gymuned am genedlaethau i ddod.”

Wedi ei bostio ar 02/05/2025