Mae cyfleuster gofal plant newydd sy'n darparu lleoedd Dechrau'n Deg a Chynnig Gofal Plant wedi agor yn llwyddiannus yn Ysgol Afon Wen - gan ategu'r buddsoddiad mawr diweddar sydd wedi darparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf yn Y Ddraenen-wen.
Roedd Ysgol Afon Wen yn un o sawl ysgol newydd sbon i agor ym mis Medi 2024 yn ardal Pontypridd - gyda chymunedau ledled y Ddraenen-wen, Cilfynydd, Rhydfelen a Beddau yn elwa ar fuddsoddiad ar y cyd gwerth £79.9 miliwn gyda Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
I ategu'r buddsoddiad, cafodd cyllid ar wahân ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru i gynnwys cyfleuster gofal plant cofrestredig ar safle'r ysgol - a chafodd lleoliad Blynyddoedd Cynnar Blossom ei sefydlu yn ddiweddar ym mis Ionawr 2025.
Mae'r cyfleuster yn darparu gofal ar gyfer plant 2-5 oed, ac mae'n cynnig lleoedd wedi'u hariannu trwy raglen Dechrau'n Deg ar gyfer plant 2-3 oed, a lleoedd wedi'u hariannu trwy’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant oed meithrin. Mae lleoliad Blynyddoedd Cynnar Blossom wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 19 lle y sesiwn, ac mae'n sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at eu lleoedd gofal plant sydd wedi'u hariannu o fewn amgylchedd diogel.
Mae'r lleoliad newydd yn elwa ar gyfleusterau modern – prif ystafell chwarae gydag offer, cegin paratoi bwyd, ystafell gotiau i blant, cyfleusterau toiled oedran meithrin pwrpasol ac ardal newid, a man chwarae awyr agored diogel. Mae rhagor o fanylion am raglenni Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant, a manylion cyswllt lleoliad Blynyddoedd Cynnar Blossom, wedi'u cynnwys ar waelod yr eitem newyddion yma.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Rwy'n falch bod lleoliad Blynyddoedd Cynnar Blossom bellach wedi'i sefydlu ac wedi agor yn Ysgol Afon Wen i deuluoedd lleol fanteisio arno, gyda'r lleoliad yn elwa ar gyfleusterau newydd sbon. Nid yn unig y mae'n ategu'r buddsoddiad Addysg enfawr yn Ysgol Afon Wen, ond bydd yn chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu'r rhaglenni Dechrau’n Deg a Chynnig Gofal Plant sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn lleol.
"Mae cynyddu mynediad at gyfleusterau gofal plant yn flaenoriaeth buddsoddi allweddol i'r Cyngor, ac rydyn ni'n parhau i groesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y maes yma. Mae'r cynllun yma yn y Ddraenen-wen yn dilyn creu cyfleusterau newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau cyn y Nadolig, gan alluogi Cylch Meithrin Beddau i ehangu ei ddarpariaeth bresennol i amser llawn - a bu buddsoddiad hefyd yn Ysgol Gynradd Gymuned Glenbói ar ddechrau blwyddyn academaidd 2024/25, sydd wedi gwella ac ehangu ei lleoliad gofal plant lleol yn fawr."
Mae gwefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth bwysig am raglenni Dechrau'n Deg a Chynnig Gofal Plant Cymru, ar dudalennau pwrpasol sydd ar gael trwy glicio ar y dolenni sydd wedi'u darparu. Mae modd cysylltu â lleoliad Blynyddoedd Cynnar Blossom trwy e-bostio blossom.afonwen@gmail.com neu ffonio 07983 505037 a 01443 827765.
Wedi ei bostio ar 11/02/2025