Mynediad i'r ganolfan a'i chyfleusterau
- Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.
- Lifft i bob lefel.
Cymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch
- Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle drwy'r amser.
- Y rhieni sy'n gyfrifol am eu plant ar bob adeg.
- Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.
Cyfleusterau newid
- Ystafelloedd newid i ddynion, menywod a theuluoedd (dwy o bob ystafell ar yr ochr sych) gyda chiwbiclau a chawodydd.
- Cyfleusterau newid cewynnau yn yr ystafelloedd newid i deuluoedd.
- Ystafelloedd mwy ar gyfer pobl ag anableddau.
- Sychwyr gwallt.
- Loceri.
Lluniaeth
Mae peiriannau ar gael sy'n gwerthu byrbrydau a diodydd oer i'w mwynhau yn yr eisteddle.
CYFLEUSTERAU CYFARFOD
Mae neuaddau ac ystafelloedd ar gael ar gyfer achlysuron, cyfarfodydd neu gynadleddau. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.