Mae Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yn falch o groesawu ystod o glybiau a grwpiau allanol sy'n defnyddio'r ganolfan a'i chyfleusterau i ymarfer eu campau chwaraeon a gweithgareddau arbenigol neu gynnal dosbarthiadau penodol fel dawnsio a chrefft ymladd.
Gan eu bod nhw'n cael eu trefnu'n allanol, nid yw'r ganolfan yn gyfrifol am gadw lle ar gyfer y grwpiau a dosbarthiadau hyn, neu am daliadau.
Dydy'r dosbarthiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal gan grwpiau allanol ddim yn rhan o'r cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes.
Cysylltwch â'r trefnwyr i gael y manylion diweddaraf ac i wirio argaeledd. Bydd y grwpiau yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau ynglŷn â phryd bydd sesiynau yn cael eu canslo.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau – gan gynnwys golff, cerdded, beicio, gymnasteg ac eraill – beth am gysylltu â charfan Chwaraeon RhCT?
Mae'r garfan wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac mae'r wefan yn cynnwys cyfeirlyfr gwych sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i weithgareddau a chlybiau lleol.
Mae Chwaraeon RhCT hefyd wrth law i helpu clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ystyried cychwyn neu estyn cyfleoedd chwaraeon trwy fanteisio ar ffrydiau ariannu, gwybodaeth a rhagor.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwybodaeth Chwaraeon RhCT!
Rhondda Sport Centre external classes
| DYDD LLUN | AMSEROEDD |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
16:30 - 19:30 |
| Clwb nofio Cwm Rhondda |
19:45 - 20:45 |
| Carate 'Shotokan' |
19:00 - 20:00 |
|
Carate 'Kyokushinkai'
|
20:00 - 21:30 |
| DYDD MAWRTH | |
|
Rhondda Paddlers
|
19:00 - 21:00
|
| DYDD MERCHER | |
| Crefft ymladd 'Cadw'n Ddiogel' |
17:00 - 18:00 |
| Carate 'Shotokan' |
19:00 - 20:00 |
| Reslo |
20:00 - 21:00 |
| DYDD IAU | |
|
Gymnasteg yr Urdd
|
17:00 - 18:00
|
|
Nofio Rhondda Polar Bears
|
19:00 - 21:00
|
|
Carate 'Kyokushinkai'
|
19:00 - 21:00
|
|
Rhondda Sub Aqua
|
21:00 - 22:00
|
| DYDD GWENER | |
| Clwb nofio Cwm Rhondda |
19:00 - 22:00 |
| Jiwdo |
19:00 - 20:30
|
| SATURDAY | |
| RCT Tigers |
10:30 - 13:30 |
| DYDD SUL | |
| Tots Pêl-rwyd |
11:00 - 13:00 |
| Crefft ymladd cymysg |
14:30 - 15:30 |