GWNEWCH HAMDDEN AM OES YN RHAN O'CH BUSNES GYDA'N CYNLLUN AELODAETH GORFFORAETHOL GWYCH!
Mae ein cynllun Aelodaeth Gorfforaethol Hamdden am Oes ar gael i unrhyw grŵp, busnes, neu glwb yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gaiff gweithwyr, ffrindiau, partneriaid hyfforddi, sefydliadau, neu glybiau chwaraeon ymuno â'i gilydd er mwyn manteisio ar yr arbedion anhygoel. Neu, ar y llaw arall, fe gaiff cyflogwyr gofrestru eu busnes fel cymhelliad i staff, neu gytuno i ymrwymo i'r Cynllun Corfforaethol, er mwyn dangos ymrwymiad i weithlu mwy iach.
Cynllun syml yw hwn, ac mae'n hawdd ymaelodi ag ef.
Byddwch chi'n mwynhau holl fuddion aelodaeth Hamdden am Oes safonol, gan dalu dim ond £29.50 bob mis. Byddwch chi felly'n arbed bron £10 y mis o'i gymharu ag aelodaeth bersonol bresennol Hamdden am Oes.
Gyda phris aelodaeth YN SEFYDLOG tan fis Ionawr 2023, a chyfle i fwynhau mynediad di-ben-draw i'r gampfa, pwll nofio, dosbarthiadau, a chwaraeon dan do ym MHOB canolfan hamdden Cyngor Rhondda Cynon Taf - am beth rydych chi'n aros?
PWY SY'N GYMWYS?
Fe gaiff unrhyw fusnes, sefydliad neu glwb fanteisio ar y buddion gwych mae Cynllun Aelodaeth Gorfforaethol Hamdden am Oes yn eu cynnig. Yr hyn rydyn ni'n gofyn amdano yw isafswm o bump aelod.
Peidiwch â phoeni os nad oes modd i chi weld eich cwmni, sefydliad neu dîm ar y rhestr, defnyddiwch y ffurflen ar-lein isod i ddechrau'ch cynllun Aelodaeth Gorfforaethol eich hun.
Mae'r tabl isod yn dangos yr arbedion y mae modd i chi eu mwynhau gyda'ch Aelodaeth Gorfforaethol Hamdden am Oes, o'u cymharu â'r prisiau talu wrth fynd ym mhob canolfan hamdden Rhondda Cynon Taf.
Ymaelodwch heddiw, a dechrau arbed arian!
Mae'r enghreifftiau isod yn dangos y math o arbedion gwych y mae modd i chi eu cael trwy ymuno â'n cynllun aelodaeth cyfnod penodol (ymrwymedig)
* Pris aelodaeth flynyddol yw £295, sef llai na £25 y mis.
* Mae'r prisiau’n seiliedig ar strwythur 52 wythnos.
GOFYN AM FFURFLEN GAIS AELODAETH HAMDDEN GORFFORAETHOL
Aelodaeth Hamdden am Oes yw'r unig un o'i math yn y rhanbarth. Does dim un Cyngor arall yn cynnig ystod mor gynhwysfawr o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd am un pris penodedig.
Oes gennych chi ddiddordeb? Ydych chi'n dymuno arbed arian, yn ogystal â mwynhau cyfleoedd hamdden mor aml ag y dymunwch? Cysylltwch â ni! Mae'n gyflym ac yn hawdd ymaelodi â'r cynllun yma. Fe gaiff aelodau ymaelodi pryd bynnag y dymunan nhw. Fe gân nhw fwynhau mynediad rhatach at hamdden am ba hyd bynnag sy'n weddill o'r flwyddyn aelodaeth, gyda chytundeb cyfnod penodol o hyd at 12 mis. Bydd eich aelodaeth yn adnewyddu bob blwyddyn oni bai'ch bod chi'n rhoi gwybod i ni fel arall, pan fyddwn ni'n cysylltu â chi er mwyn rhoi gwybod bod eich dyddiad adnewyddu ar fin dod (fel arfer, un mis cyn diwedd yr aelodaeth).
Telerau ac Amodau – Cwmnïau / Telerau ac Amodau – Clybiau