Os ydych chi'n aelod presennol neu’n gyn-aelod o'r Lluoedd Arfog, mae modd i chi fanteisio ar Aelodaeth Hamdden am Oes am ddim neu am bris rhatach ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n cynnig cymorth a buddion i'r rheiny sydd wedi gwasanaethu neu sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd.
Mae'r cynigion yn berthnasol i aelodau llawn amser ac aelodau wrth gefn cymuned y Lluoedd Arfog. Rhaid dangos Cerdyn Gostyngiadau’r Lluoedd Arfog dilys.
Mae modd i chi fanteisio ar:
- Aelodaeth Hamdden am Oes am ddim os ydych chi'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd (gan gynnwys aelodau wrth gefn). Mae'r aelodaeth yn cynnwys mynediad diderfyn i'r gampfa, pyllau nofio (gan gynnwys dosbarthiadau plymio a gwersi nofio), dosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon dan do a mynediad i'r ystafell ffitrwydd ym mhob un o’n canolfannau Hamdden am Oes.
- Nofio AM DDIM ym mhob un o’n pyllau nofio Hamdden am Oes ar gyfer aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog sydd wedi ymddeol.
- Mae modd i bob cyn-filwr fanteisio ar aelodaeth Hamdden am Oes am bris rhatach (£30 y mis) sy'n cynnwys yr holl fuddion sydd wedi’u nodi uchod. Os ydych chi’n 60 oed neu'n hŷn, mae modd i chi fanteisio ar Aelodaeth Hamdden am Oes am bris rhatach, sef £24.50 y mis.
